Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/10/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC a Helen Mary Jones AC.

 

(09.30-11.00)

2.

Craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Mark Polin, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gary Doherty, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Deborah Carter, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Sue Hill, Cyfarwyddwr Cyllid Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

2.2 Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu tystiolaeth atodol ynghylch:

·         y canran o bobl ifanc sy’n cael eu hasesu ar gyfer triniaeth CAMHS arbenigol o fewn y terfynau amser gofynnol ar gyfer atgyfeiriadau;

·         y terfynau amser ar gyfer amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol;

·         esboniad o’r cyfyngiadau sydd ar waith sy’n rhwystro pobl ifanc sy’n ystyried hunanladdiad neu sy’n hunan-niweidiol rhag cael eu derbyn i’r Uned CAMHS yn Abergele a pha gamau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu cymryd i ymdrin â’r problemau o ran recriwtio i’r uned.

(11.10-12.40)

3.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Gofal Cymru

 

Rhys Jones, Pennaeth Uwchgyfeirio a Gorfodi, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Tania Osborne, Pennaeth Arolygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi

Gillian Baranski, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru

 

Briff Ymchwil

Pecyn ymgynghori

Pecyn ymgynghori (preifat)

 

Papur 2 – Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Papur 3 – Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi

Papur 4 – Arolygiaeth Gofal Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

(12.40)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.40-12.45)

5.

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): trafod yr amserlen ddrafft

 

Papur 5 – Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): trafod yr amserlen ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer y Bil.