Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/12/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC a Lynne Neagle AC.  Dirprwyodd Joyce Watson AC ar ran Lynne Neagle AC.

 

 

(09.30-10.15)

2.

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Trafodion Cyfnod 2

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwyddor Iechyd, Llywodraeth Cymru

Sarah Tyler, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 - Rhestr o Welliannau wedi'u didoli

Papur 2 - Grwpio Gwelliannau

Papur 3 - Y drefn bleidleisio ar gyfer gwelliannau a gyflwynwyd

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 O dan reol sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant fel meddyg teulu sydd wedi talu indemniad meddygol yn y gorffennol tra’n gweithio fel meddyg.

2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, trafododd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn i'r Bil, a’u gwaredu:

Gwelliant 1 (Angela Burns): cafodd y gwelliant hwn ei dynnu yn ôl, gyda chytundeb y Pwyllgor.

Gwelliant 2 (Angela Burns): cafodd y gwelliant hwn ei dynnu yn ôl, gyda chytundeb y Pwyllgor.

2.2 Cadarnhaodd y Cadeirydd y bernir bod holl adrannau’r Bil a’r holl atodlenni iddo wedi cael eu cytuno. Yn sgil hynny, mae trafodion Cyfnod 2 wedi'u cwblhau.

 

(10.15)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Llythyr gan y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned ynghylch y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.2

Llythyr gan y Gymdeithas Gwarchod Meddygol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

3.3

Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(10.15-10.20)

5.

Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trefn y drafodaeth

 

Papur 7: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trefn y drafodaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor drefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a chytunodd arni.  Bydd trefn y drafodaeth yn cael ei chyhoeddi ar dudalen we'r Bil.

 

(10.20-10.35)

6.

Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru - Gwaith dilynol

Papur 8 - Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru - Gwaith dilynol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu mewn perthynas â’r gwaith dilynol sydd i'w wneud yn y maes hwn, a chytunodd arno.

 

(10.35-11.20)

7.

Blaenraglen Waith: Trafod y flaenraglen waith

Papur 9 – Blaenraglen waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1  Cytunodd y Pwyllgor i flaenoriaethu dau ymchwiliad i'w hystyried - ymchwiliad i leoliadau cleifion mewnol CAMHS y tu allan i'r ardal, ac ymchwiliad i ryddhau cleifion o'r ysbyty. Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar nifer o ddarnau byrrach eraill o waith. Caiff y manylion eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn.