Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/03/2020 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau'r i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC.

1.3        O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC a David Rees AC eu bod yn Aelodau Cynulliad ar gyfer etholaethau yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

 

(09.30-11.00)

2.

Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Emma Woollett

 

Briff Ymchwil

Papur 1 - Datganiad Personol

Papur 2 - Holiadur gwrandawiad cyn penodi

Papur 3 - Curriculum Vitae

Papur 4 - Crynodeb o'r broses recriwtio

Papur 5 - Pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, Emma Woollett.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd yr Aelodau y Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4.

 

(11.00-11.30)

4.

Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan gytuno ar gynnwys ei adroddiad drafft.

 

(12.15-13.00)

5.

Sepsis: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Gemma Ellis, Aelod o'r Coleg Nyrsio Brenhinol

 

Briff Ymchwil

Papur 6 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru.

 

(13.00-13.45)

6.

Sepsis: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Meddygon Cymru

Dr Richard Stuart Gilpin, Cynrychiolydd Dan Hyfforddiant Cymru ar gyfer Coleg Brenhinol y Meddygon

 

Papur 7 - Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru.

6.2 Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru yn gallu darparu gwybodaeth ysgrifenedig am y newidiadau y gellid eu gwneud i helpu i wella’r gwaith o ganfod ac ymyrryd yn gynnar mewn achosion o Sepsis sy'n tarddu o leoliadau cymunedol.

 

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Canolfan Adsefydlu Breswyl Brynawel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

7.2

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(13.45)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod ar 18 Mawrth 2020

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd yr Aelodau y Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod ar 18 Mawrth.

 

(13.45-14.00)

9.

Sepsis: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(14.00-14.15)

10.

Gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol: cwmpas a dull gweithredu

 

Gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol: cwmpas a dull gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymchwiliad i ofal iechyd i gleifion mewnol gan gytuno ar y dull gweithredu.