Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/06/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00-14.05)

1.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i benodi Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Agorodd y Clerc y cyfarfod yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, gan ddweud bod Jane Hutt wedi'i henwebu yn Gadeirydd Dros Dro. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad, felly cafodd Jane Hutt ei hethol yn briodol.

 

(14.05)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees a Michelle Brown.

2.3 Datganodd Jane Hutt ddiddordeb fel Ymddiriedolwr elusen Vale for Africa. Datganodd Steffan Lewis ddiddordeb fel Aelod o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Datganodd Jenny Rathbone ddiddordeb fel noddwr Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat.

 

(14.05-15.05)

3.

Hub Cymru Africa - sesiwn dystiolaeth

Cat Jones, Hub Cymru Affrica

Aileen Burmeister, Cymru Masnach Deg

Kathrin Thomas, Rhwydwaith Cysylltiadau Cymru o Blaid Affrica

Fadhili Maghiya, Panel Cynghori Is-Sahara

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.05-15.10)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Papur i'w nodi 1 – Gohebiaeth oddi wrth Greg Hands AS, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach, ynghylch goblygiadau polisi masnach y dyfodol – 11 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

 

4.2

Papur i'w nodi 2 - Gohebiaeth oddi wrth y Llywydd at y Prif Weinidog ynghylch yr UE (y Bil Ymadael) a chyfraith amgylcheddol – 14 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nodwyd y papur.

 

4.3

Papur i'w nodi 3 - Gohebiaeth oddi wrth Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch y cytundeb rhynglywodraethol ar Fil yr UE (Ymadael) - 19 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nodwyd y papur.

 

4.4

Papur i'w nodi 4 - Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch y cytundeb rhynglywodraethol ar Fil yr UE (Ymadael) - 19 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Nodwyd y papur.

 

4.5

Papur i’w nodi 5 – Gohebiaeth oddi wrth y Llywydd at Karl Heinz Lambertz, Llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau Ewrop ynghylch Pwyllgor y Rhanbarthau – 19 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5 Nodwyd y papur.

 

4.6

Papur i’w nodi 6 – Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch y cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU – 19 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6 Nodwyd y papur.

 

4.7

Papur i’w nodi 7 - Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch yr ymchwiliad i’r cyfnod pontio ar gyfer gadael yr UE – 19 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7 Nodwyd y papur.

 

4.8

Papur i’w nodi 8 – Gohebiaeth oddi wrth Robin Walker AS, yr Is-ysgrifennydd Seneddol dros Ymadael â’r UE, ynghylch yr ymchwiliad i’r cyfnod pontio ar gyfer gadael yr UE – 20 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.8 Nodwyd y papur.

 

4.9

Papur i’w nodi 9 – Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi at Angus MacNeil AS, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Fasnach Ryngwladol, ynghylch strategaeth fasnach y DU ar ôl Brexit – 21 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.9 Nodwyd y papur.

 

(15.10)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.10-15.20)

6.

Hub Cymru Africa – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.20-15.30)

7.

Sesiwn friffio ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd yr Aelodau eu briffio ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).