Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/04/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson. Dirprwyodd Mike Hedges ar ei rhan.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding. Dirprwyodd Suzy Davies ar ei ran.

1.4        Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan mai ef yw cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop. Cytunodd Mr Irranca-Davies i beidio â gofyn cwestiynau a oedd yn ymwneud â'r rôl hon.

 

(13:30-15:00)

2.

Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Prif Weinidog i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15:00-15:05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan y Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch Dadansoddiad Fframweithiau Cyffredin y DU - 4 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1   Cytunodd yr Aelodau i dderbyn cynnig y Gweinidog Brexit o friff technegol ar Fframweithiau Cyffredin gan swyddogion.

3.1.2   Nodwyd y papur.

 

3.2

Papur i'w nodi 2: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch presenoldeb Gweinidogion yn y Pwyllgor - 12 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1 Nodwyd y papur.

 

3.3

Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd o ran cytundebau rhyngwladol - 18 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nodwyd y papur.

 

3.4

Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan y Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y paratoadau ar gyfer Brexit yng Nghymru - 23 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.1 Nodwyd y papur.

 

 

3.5

Papur i'w nodi 5: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch Bil Masnach y DU - Adroddiad MADY Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 25 Ebrill 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5.1 Cytunodd yr Aelodau i ymateb i'r Gweinidog i geisio sicrwydd pellach ar gydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach.

3.5.2 Nodwyd y papur.

 

 

(15:05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15:05-15:20)

5.

Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15:20-15:25)

6.

Ystyried ymateb i'r ohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch presenoldeb Gweinidogion yn y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau i ymateb i'r Prif Weinidog i gadarnhau eu hymrwymiad i gydweithredu er mwyn sicrhau bod Gweinidogion yn gallu dod i'r Pwyllgor pan fydd angen.

 

(15:25-15:35)

7.

Craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y cytundebau a ganlyn:

·         Cytundeb parhad masnach UK-CARIFORUM

·         Cytundeb parhad masnach Gwlad yr Iâ-Norwy

·         Cytundeb Partneriaeth Wirfoddol y DU-Indonesia ar Orfodaeth Cyfraith Coedwigoedd, Llywodraethu a'r Fasnach mewn Cynhyrchion Pren

·         Cytundeb y DU-Belarws ynghylch Cludo Cerbydau Modur Rhyngwladol

7.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i ofyn am eglurhad o'i ddatganiad ar gyfrifoldeb am bolisi coedwigaeth yn y DU.