Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn breifat yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi)

(13.30)

1.

Cyflwyniad, Ymddiheuriadau, Dirprwyon a Datgan Buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown.

 

(13.30 - 14.30)

2.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: y goblygiadau i Gymru - crynodeb ar lafar gan Brif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad

Elisabeth Jones, Prif Gynghorydd Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor grynodeb ar lafar gan Brif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad ynghylch goblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50.

 

(14.40 - 15.00)

3.

Blaenraglen waith - trafodaeth ar ymchwiliadau i'w cynnal yn y dyfodol

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd ar y cynigion manwl ar gyfer ymchwiliad i bolisi rhanbarthol - lle nesaf i Gymru?