Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, Ymddiheuriadau, Dirprwyon a Datgan Buddiannau Cofnodion: 1.1
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies, Steffan Lewis a Mark Isherwood. 1.2
Croesawyd David Melding fel dirprwy. |
|
(13.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 3 a 6 ac o'r cyfarfod ar 15 Ionawr. Cofnodion: 2.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(13.30-14.00) |
Y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod mân newidiadau i'r adroddiad. Bydd fersiwn
ddiwygiedig o'r adroddiad yn cael ei dosbarthu drwy e-bost er mwyn i'r Pwyllgor
gytuno arni. |
|
(14.00-15.30) |
Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'i oblygiadau i Gymru - sesiwn dystiolaeth Mark
Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Des
Clifford, Llywodraeth Cymru Piers
Bisson, Llywodraeth Cymru Simon
Brindle, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(15.30-15.35) |
Papur(au) i'w nodi |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch yr ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nodwyd y papur. |
||
Llythyr gan yr Arglwydd Jay o Ewelme, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar yr UE, ynghylch adroddiadau sectorol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2 Nodwyd y papur. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch Buddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.3 Nodwyd y papur. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd a phorthladdoedd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.4 Nodwyd y papur. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch gwydnwch a pharodrwydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.5 Nodwyd y papur. |
||
Llythyr gan Hub Cymru Affrica ynghylch gwneud cytundebau masnach yn deg a thryloyw Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.6 Nodwyd y papur. |
||
(15.35-16.05) |
Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'i oblygiadau i Gymru - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |