Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/02/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Gwnaeth Huw Irranca-Davies AC ddatgan buddiant gan mai ef yw Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop. Cytunodd Mr Irranca-Davies na fyddai'n gofyn cwestiynau a oedd yn gysylltiedig â'r rolau hyn.

 

(14.00-15.00)

2.

Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog Brexit

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

Simon Brindle, Llywodraeth Cymru

Liz Lalley, Llywodraeth Cymru

Robert Parry, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau.

 

(15.00-15.05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i’w nodi 1 – Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at y Llywydd ynghylch deddfu ar gyfer Brexit – 11 Ionawr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papur.

 

3.2

Papur i'w nodi 2 - Gohebiaeth gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch eglurhad o'r ymateb i'r adroddiad ar baratoadau porthladdoedd - 25 Ionawr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nodwyd y papur.

 

 

3.3

Papur i'w nodi 3 - Gohebiaeth gan Steve Barclay AS, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd at yr Arglwydd Boswell, Cadeirydd Pwyllgor Dethol yr UE, ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am gytundebau masnach rhyngwladol - 25 Ionawr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nodwyd y papur.

 

 

3.4

Papur i'w nodi 4 - Gohebiaeth gan yr Arglwydd Boswell, Cadeirydd Pwyllgor Dethol yr UE, ynglŷn â chysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit a rôl y sefydliadau datganoledig - 25 Ionawr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nodwyd y papur.

 

 

3.5

Papur i'w nodi 5 - Gohebiaeth gan Stephen Kinnock AS, Cadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Gyllid ar ôl Brexit ar gyfer Cenhedloedd, Rhanbarthau ac Ardaloedd Lleol, mewn perthynas â'r adroddiad ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU - 28 Ionawr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5 Nodwyd y papur.

 

 

(15.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.20)

5.

Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Brexit - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.