Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson, Michelle Brown a Mark Reckless.

 

(14.00-14.05)

2.

Papurau i’w nodi

2.1

Papur i'w nodi 1 - Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at randdeiliaid ynghylch ymgynghoriad ar eu blaenraglen waith tair blynedd - 7 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Nodwyd y papur.

 

2.2

Papur i'w nodi 2 - Gohebiaeth gan Jeremy Miles AC at y Cadeirydd ynghylch rhaglen OS Ymadael â'r UE Cymru - 11 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2     Nodwyd y papur.

 

 

2.3

Papur i'w nodi 3 - Cymalau drafft a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru i'r Bil Cytundeb Ymadael - 11 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3     Nodwyd y papur.

 

 

2.4

Papur i'w nodi 4 - Gohebiaeth gan Eluned Morgan AC at y Cadeirydd ynghylch Bil Masnach y DU: Adroddiad EAAL Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - 12 Mawrth 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4     Nodwyd y papur.

 

 

(14.05)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.05-14.25)

4.

Monitro trafodaethau'r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Cafodd yr Aelodau friff gan y Gwasanaeth Ymchwil ar drafodaethau'r UE.

 

(14.25-14.40)

5.

Paratoi ar gyfer Brexit - Goblygiadau i Gymru yn deillio o gynllunio 'dim bargen' Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Cafodd yr aelodau friff gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y goblygiadau i Gymru yn sgil gwaith cynllunio Llywodraeth y DU ar gyfer ‘dim cytundeb’.

 

(14.40-14.50)

6.

Craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Cytunodd yr Aelodau i adrodd ar y cytundebau canlynol oherwydd materion a nodwyd yn y cytundebau a allai effeithio ar Gymru:

·         Cytundeb Masnach rhwng y DU a’r Swistir

·         Cytundeb masnach Palesteina

·         Cytundeb masnach Israel

6.2     Trafododd yr Aelodau’r cytundebau canlynol:

·         Cytundeb 1994 ar Gaffael Llywodraeth

·         Cytundeb Diwygiedig ar Gaffael y Llywodraeth

·         Cytundeb cyd-gydnabyddiaeth rhwng y DU a'r Unol Daleithiau

·         Cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU ar gyd-gydnabod tystysgrifau cydymffurfio ar gyfer offer morol

 

(14.50-15.00)

7.

Monitro sybsidiaredd: Diwygio'r Rheolau Sefydlog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i awgrymu ei fod yn ystyried, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r DU ymadael â’r UE, cyflwyno cynigion i:

·         adolygu Rheolau Sefydlog er mwyn dileu Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11; a

·         diwygio cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ddileu is-baragraff (c) (sy'n ymwneud â Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11).

 

(15.00-15.15)

8.

Paratoi ar gyfer sesiwn graffu ar waith Prif Weinidog Cymru ar 25 Mawrth 2019

Cofnodion:

8.1     Trafododd yr Aelodau feysydd sy’n flaenoriaeth i holi yn eu cylch wrth baratoi ar gyfer y sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru ar 25 Mawrth 2019.