Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/09/2019 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan mai ef yw Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru, a Chadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru.

 

(13.30-15.00)

2.

Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru

Desmond Clifford, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.00-15.05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i’w nodi 1: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin - 26 Mawrth 2019 hyd 25 Mehefin 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Nodwyd y papur.

 

3.2

Papur i’w nodi 2: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ynghylch parodrwydd ar gyfer Brexit - 18 Gorffennaf 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1 Nodwyd y papur.

 

3.3

Papur i’w nodi 3: Gohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru at y Cadeirydd ynghylch ymwneud â’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf - 9 Awst 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nodwyd y papur.

 

3.4

Papur i’w nodi 4: Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch parodrwydd ar gyfer Brexit - 22 Awst 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.1 Nodwyd y papur.

 

3.5

Papur i’w nodi 5: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch fframweithiau polisi cyffredin ledled y DU - 6 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5.1 Nodwyd y papur.

 

3.6

Papur i’w nodi 6: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch cyfarfod y Pwyllgor ar 8 Gorffennaf 2019 - 6 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6.1 Nodwyd y papur.

 

3.7

Papur i’w nodi 7 - Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch strategaeth ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru – 9 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.7.1 Nodwyd y papur.

 

3.8

Papur i’w nodi 8 - Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch masnach ryngwladol - 9 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.8.1 Nodwyd y papur.

 

3.9

Papur i’w nodi 9: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch cysylltiadau rhyng-Lywodraethol - 11 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.9.1 Nodwyd y papur.

 

3.10

Papur i’w nodi 10: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch rhwymedigaethau rhyngwladol sy’n rhwymo’r DU – 12 Medi 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.10.1 Nodwyd y papur.

 

(15.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.20)

5.

Sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.20-15.35)

6.

Craffu ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr aelodau i gyflwyno adroddiad ar Gytuniad y DU-Portiwgal ar hawliau pleidleisio cilyddol ar gyfer etholiadau lleol a Chytuniad y DU-Lwcsembwrg ar hawliau pleidleisio cilyddol ar gyfer etholiadau lleol.

6.2 Trafododd yr Aelodau y cytundebau a ganlyn a'u nodi:

6.2.1 Atodlenni Newydd ac Atodlenni Diwygiedig i'r Cytundeb Diwygiedig ar Gaffael y Llywodraeth o ganlyniad i gytuniad Awstralia

6.2.2 Cytundeb y DU-Swistir ar fynediad i'r farchnad lafur am gyfnod pontio dros dro a'r Cytundeb Rhyddid Symud Pobl

6.2.3 Cytundeb yn sefydlu Sefydliad Rhyngwladol Gwinwydd a Gwin

6.2.4 Cytundeb Coffi Rhyngwladol 2007

6.2.4 Cytundeb Siwgr Rhyngwladol 2007

6.2.6 Cytundeb cysylltiadau y DU-Canolbarth America

6.3 Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gadarnhau a gafodd testun y cytundeb ei rannu â hwy unwaith yr oedd yn sefydlog.