Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/01/2020 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru.

1.3        Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Ewropeaidd, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

 

(13.30-15.00)

2.

Sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog

Des Clifford, Llywodraeth Cymru

Rob Parry, Llywodraeth Cymru

Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Atebodd y Prif Weinidog gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.00-15.05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch gwaith craffu'r Cynulliad ar gytundebau rhyngwladol - 9 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1  Cafodd y papur ei nodi.

 

3.2

Papur i’w nodi 2: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad at y Cadeirydd ynghylch goblygiadau posibl i bwyllgorau’r Cynulliad o unrhyw newid ym maint y Cynulliad - 16 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1  Cafodd y papur ei nodi.

 

 

3.3

Papur i’w nodi 3: Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros ymadael â'r UE at y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) - 18 Rhagfyr 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1  Cafodd y papur ei nodi.

 

 

(15.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.20)

5.

Sesiwn graffu gyda’r Prif Weinidog - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15.20-15.50)

6.

Y dull o graffu ar Fil yr UE (Cytundeb Ymadael)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Cytunodd yr Aelodau ar y dull o graffu ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael).

 

(15.50-16.15)

7.

Trafod y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Trafododd yr Aelodau'r flaenraglen waith a chytunwyd arni.