Agenda a Chofnodion

Lleoliad: External

Cyswllt: Alun Davidson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

0.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

0.2  Cafwyd ymddiheuriadau gan Mandy Jones.

0.3  Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.

 

 

(15.00-15.30)

1.

Trafod y dull gweithredu o ran arferion gwaith y Pwyllgor y tu allan i gyfarfodydd y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1    Cytunodd yr aelodau i newid arferion gwaith y Pwyllgor, er mwyn hwyluso trefniadau gweithio o bell.

 

(15.30-16.00)

2.

Negodiadau ynghylch y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i addasu’r modd y mae’n ymdrin â’r ffrwd waith hon o ystyried yr amgylchiadau presennol. 

 

(16.00-16.30)

3.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ofyn am ragor o wybodaeth am y Bil Masnach.

 

(16.30-16.45)

4.

Trafod cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau gytundeb rhyngwladol yn ymwneud â Chyngor Ewrop: Confensiwn ar Gyd-gynhyrchu Sinematig.

4.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth am y cytundeb.

 

(16.45-17.00)

5.

Gohebiaeth rhwng Swyddfa'r Cabinet a Phwyllgor Cyswllt Tŷ'r Arglwyddi ynghylch gwaith craffu Seneddol ar fframweithiau cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.