Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/04/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. 2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant, Janet
Finch-Saunders, Russell George, John Griffiths, Mike Hedges, Nick Ramsay a
Bethan Sayed. |
|
Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru - Ymateb i Ddyfarniad yr Uchel Lys Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1. Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau posibl,
gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer eitem
2.1. 2. Enwebwyd David Rees gan Mick Antoniw a
chafodd ei ethol yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 3. Esgusododd Ann Jones, AC, ei hun o'r cyfarfod
ar gyfer eitem 2.1. 4. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Prif
Weinidog am ei Ddatganiad Ysgrifenedig. |
|
Blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar flaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gweddill y Pumed
Cynulliad. |
|
Materion yn ymwneud ag ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1. Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif
Weinidog ar y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas ag ymadawiad y DU o'r
Undeb Ewropeaidd. 2. Datganodd Lynne Neagle y buddiant perthnasol
a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Efallai y byddai aelod o staff dros dro yn ei swyddfa
wedi bod yn rhan o'r trafodaethau mewn perthynas ag eitem 2.1. |
|
Materion Amserol Cofnodion: Gan fod
nifer o faterion amserol wedi codi mewn busnes cynharach, ni ofynnwyd unrhyw
gwestiynau o dan yr eitem hon. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitem 4 Cofnodion: Ni
chynigiwyd y cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth o sesiynau blaenorol Cofnodion: Ni wnaeth
y Pwyllgor gynnig y cynnig i gyfarfod yn breifat i drafod y dystiolaeth o'r
sesiwn flaenorol. |