Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 421KB) Gweld fel HTML (96KB)

 

(09.00 - 09.15)

1.

Lobïo: Y Comisiynydd Safonau

Gerard Elias CF - y Comisiynydd Safonau

Cofnodion:

1.1 Cynigiodd Y Comisiynydd Safonau rai sylwadau ar y sefyllfa lobïo gyfredol ac ar y sefyllfa yn y Deyrnas Unedig.

 

(09.15)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r Comisiynydd Safonau i'r cyfarfod.

2.2 Croesawodd y Cadeirydd Llyr Gruffydd AC i'r Pwyllgor wedi iddo gael ei ethol i gymryd lle Dafydd Elis Thomas AC.

 

 

(09.15-09.35)

3.

Lobïo: Trafod papur gan y Comisiynydd Safonau

SoC(5)-03-16 Papur 1

 

Gerard Elias CF - y Comisiynydd Safonau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Siaradodd y Comisiynydd Safonau am ei bapur ar y gyfundrefn lobïo bresennol a hefyd ar sefyllfa'r Deyrnas Unedig ac atebodd gwestiynau'r Aelodau.

3.2 Gwnaeth yr Aelodau ystyried yr adroddiad a chytuno i:

·       Gyhoeddi ymgynghoriad ysgrifenedig ar y gyfundrefn lobïo ac

·       Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi gwybod am yr ymgynghoriad a chyfleu barn y Pwyllgor y gallai'r Llywodraeth ddymuno adolygu'r Cod Gweinidogol mewn perthynas â lobïo.

 

 

(09.35 - 10.05)

4.

Sesiwn ymadawol gyda'r Comisiynydd Safonau

Gerard Elias CF - y Comisiynydd Safonau

 

Cofnodion:

4.1 Bu'r Comisiynydd Safonau yn myfyrio ar ei amser yn y swydd sy'n dod i ben ar 30 Tachwedd 2016.

4.2 Diolchodd y Cadeirydd i'r Comisiynydd Safonau am ei waith dros y chwe blynedd diwethaf a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.

4.3 Croesawodd y Cadeirydd Syr Roderick Evans CF fel y Comisiynydd Safonau nesaf.

 

(10.05)

5.

Ethol Cadeirydd dros dro yn unol ag Adran 10.2 o'r weithdrefn gwyno

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid ethol Paul Davies AC i weithredu fel Cadeirydd dros dro yn unol â pharagraff 10.2 o'r drefn gwyno.