Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.30)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

2.1

Adroddiad Blynyddol y Grwpiau Trawsbleidiol: Gohebiaeth gan y Llywydd (14 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:

(09.35 - 09.45)

3.

Diwygio’r Cynulliad: Trafod y llythyr drafft

SoC(5)-11-17 Papur 1 – Llythyr drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ystyriodd yr Aelodau y llythyr drafft a chytuno ar ei gynnwys.

 

(09.45 - 10.30)

4.

Y Cod Ymddygiad - Adolygu

SoC(5)-11-17 Papur 2 – Datganiad gan y Llywydd (15 Tachwedd 2017)

SoC(5)-11-17 Papur 3 – Amlinelliad o'r ymchwiliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd yr Aelodau y cais i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i ddatblygu Polisi Parch ac Urddas, ynghyd ag adolygu’r cosbau sydd ar gael os torrir y Cod Ymddygiad.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i:

·       Gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig i ofyn barn am y broses yn gyffredinol, i holi a oes unrhyw resymau pam nad yw pobl yn gwneud cwynion ac i holi a oes unrhyw rannau o’r Cod y gellid eu gwneud yn fwy eglur. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ystyried a ddylid cynnal unrhyw sesiynau tystiolaeth lafar ar ôl cael ymatebion ysgrifenedig;

·       Datblygu strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo gwaith y Pwyllgor a’r Comisiynydd Safonau; a

·       Gofyn i Glerc y Pwyllgor wneud ymholiadau gyda Llywodraeth Cymru, ynghylch a oes Aelod etholedig neu uwch swyddog yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd Pwyllgor perthnasol i drafod Cod y Gweinidogion a sut y gall y Cod ategu’r gwaith a wneir i ddatblygu’r Polisi Parch ac Urddas.

 

 

Nodyn gan Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor

Esgusododd Jayne Bryant ei hun ar gyfer Eitem 5, sef yr eitem ar yr Adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(1). Roedd hyn oherwydd bod y gŵyn a gyflwynwyd ar ran Grŵp Llafur y Cynulliad yn ei chynnwys hi.

 

Paul Davies AC, oedd y Cadeirydd ar gyfer Eitem 5 yn dilyn cytundeb y Pwyllgor ar 15 Tachwedd 2016, ei fod ef yn cael ei ethol fel Cadeirydd dros dro. 

 

Gadawodd Syr Roderick Evans, y Comisiynydd Safonau, y cyfarfod hefyd ar ôl Eitem 4.

 

(10.30 - 11.00)

5.

Adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(1)

Papur briffio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Syr Roderick Evans, y Comisiynydd Safonau i fod yn bresennol yn y    cyfarfod tra’r ystyriwyd yr eitem hon.

5.2 Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(i)

5.3 Nododd yr Aelodau fod yr Aelod dan sylw wedi datgan y darperir tystiolaeth ysgrifenedig i’w hystyried ganddynt, a bod yr Aelod am wneud sylwadau ar lafar. Bydd y Clercod yn cysylltu â’r Aelod ac yn cynnig nifer o ddyddiadau ar gyfer y gwrandawiad.