Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r
cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC. 1.3 Croesawodd y Cadeirydd Andrew R.T. Davies AC
i'w gyfarfod cyntaf yn sgil cael ei ethol yn aelod o'r Pwyllgor ar 18 Medi
2018, a diolchodd i Paul Davies AC am ei holl gyfraniadau i waith y Pwyllgor. |
||
(09.30-10.15) |
Cod Ymddygiad - Adolygiad: Trafod ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r adroddiad 'Creu'r Diwylliant Cywir' SoC(5)
-17-18 Papur 1 - Ymateb Comisiwn y Cynulliad i’r adroddiad, 'Creu'r Diwylliant
Cywir'. Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Trafododd yr Aelodau ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r argymhellion a geir yn yr
adroddiad 'Creu'r Diwylliant Cywir'. 2.2 Cytunodd
yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ymateb i'r Llywydd a gofyn am amserlen
gliriach ar gyfer ymateb i Argymhelliad 14. 2.3 Nododd
yr Aelodau y bydd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i Argymhelliad 12 ar gael yn
ddiweddarach yn y mis ac y bydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor. |
|
(10.15-10.30) |
Adroddiad Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol: Trafod yr adroddiad ar gyfer 2017-18 SoC(5)-17-18 Papur 2 – Adroddiad Blynyddol y Grwpiau Trawsbleidiol
2017-18 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Trafododd yr Aelodau Adroddiad Monitro'r Grwpiau Trawsbleidiol 2017-18 a
baratowyd gan y Swyddfa Gyflwyno ar gyfer y Pwyllgor yn unol â pharagraff 44
o'r rheolau ar weithredu Grwpiau Trawsbleidiol. 3.2
Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Llywydd yn nodi eu
hargymhellion a'r camau a awgrymir ar gyfer y Grwpiau Trawsbleidiol nad ydynt
wedi cydymffurfio â'r rheolau ac sydd o'r herwydd yn dod o dan Gategorïau B ac
C yn yr Adroddiad. |