Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Dewisodd Jayne Bryant AC, Cadeirydd y
Pwyllgor, fod yn absennol o'r cyfarfod cyfan am fod y gŵyn a gyflwynwyd ar
ran Grŵp Llafur y Cynulliad yn ei chynnwys hi. 1.2 Paul Davies AC a gadeiriodd y cyfarfod, yn
dilyn cytundeb y Pwyllgor ar 15 Tachwedd 2016 i'w ethol yn Gadeirydd dros
dro. 1.3 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r
cyfarfod. |
|
(10.00 - 10.30) |
Trafod adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i): Sesiwn Dystiolaeth Michelle Brown AC Neil Hamilton AC – yn cynghori Cofnodion: 2.1
Trafododd yr Aelodau Adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog
22.2(i), gan gymryd tystiolaeth gan yr Aelod dan sylw a'i chynghorydd. |
|
(10.30 - 11.00) |
Trafod adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i): Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 3.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth ynghyd ag
Adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) a chytuno ar
benderfyniad ynglŷn â'r mater hwn. 3.2 Bydd y
Clercod yn llunio adroddiad i'r Aelodau ei ystyried. |