Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papur. |
|
Adroddiad Blynyddol y Grwpiau Trawsbleidiol: Gohebiaeth gan y Llywydd (14 Tachwedd 2017) Dogfennau ategol: |
||
(09.35 - 09.45) |
Diwygio’r Cynulliad: Trafod y llythyr drafft SoC(5)-11-17 Papur 1 – Llythyr drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Ystyriodd yr Aelodau y llythyr drafft a chytuno ar ei gynnwys. |
|
(09.45 - 10.30) |
Y Cod Ymddygiad - Adolygu SoC(5)-11-17 Papur 2 – Datganiad gan y Llywydd (15 Tachwedd 2017) SoC(5)-11-17 Papur 3 – Amlinelliad o'r ymchwiliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Ystyriodd yr Aelodau y cais i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i
ddatblygu Polisi Parch ac Urddas, ynghyd ag adolygu’r cosbau sydd ar gael os
torrir y Cod Ymddygiad. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i: · Gynnal
ymgynghoriad ysgrifenedig i ofyn barn am y broses yn gyffredinol, i holi a oes
unrhyw resymau pam nad yw pobl yn gwneud cwynion ac i holi a oes unrhyw rannau
o’r Cod y gellid eu gwneud yn fwy eglur. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ystyried a
ddylid cynnal unrhyw sesiynau tystiolaeth lafar ar ôl cael ymatebion
ysgrifenedig; · Datblygu
strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo gwaith y Pwyllgor a’r Comisiynydd Safonau; a · Gofyn i Glerc
y Pwyllgor wneud ymholiadau gyda Llywodraeth Cymru, ynghylch a oes Aelod
etholedig neu uwch swyddog yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd Pwyllgor
perthnasol i drafod Cod y Gweinidogion a sut y gall y Cod ategu’r gwaith a
wneir i ddatblygu’r Polisi Parch ac Urddas. |
|
Nodyn gan Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor Esgusododd Jayne Bryant ei hun ar
gyfer Eitem 5, sef yr eitem ar yr Adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â
Rheol Sefydlog 22.2(1). Roedd hyn oherwydd bod y gŵyn a gyflwynwyd ar ran
Grŵp Llafur y Cynulliad yn ei chynnwys hi. Paul Davies AC, oedd y Cadeirydd ar gyfer Eitem 5 yn dilyn cytundeb y
Pwyllgor ar 15 Tachwedd 2016, ei fod ef yn cael ei ethol fel Cadeirydd dros
dro. Gadawodd Syr Roderick Evans, y Comisiynydd Safonau, y cyfarfod hefyd ar ôl
Eitem 4. |
||
(10.30 - 11.00) |
Adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(1) Papur briffio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Syr Roderick Evans, y Comisiynydd Safonau
i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra’r
ystyriwyd yr eitem hon. 5.2 Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol
Sefydlog 22.1(i) 5.3 Nododd yr Aelodau fod yr Aelod dan sylw wedi datgan y darperir
tystiolaeth ysgrifenedig i’w hystyried ganddynt, a bod yr Aelod am wneud
sylwadau ar lafar. Bydd y Clercod yn cysylltu â’r Aelod ac yn cynnig nifer o
ddyddiadau ar gyfer y gwrandawiad. |