Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod, gan roi croeso arbennig i David Rowlands wrth iddo ddychwelyd i'r Pwyllgor.

 

1.2        Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

2.

Adolygiad o'r Cod Ymddygiad - Cod Ymddygiad Drafft

SoC(5)-18-20 Papur 1 - Cod Ymddygiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Tom Jackson i’r cyfarfod.

 

2.2 Trafododd y Pwyllgor dabl sy’n cymharu'r darpariaethau presennol yn y Cod Ymddygiad â'r Cod Ymddygiad wedi'i ddiweddaru.

 

3.

Trafod llythyr gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

4.

Papur(au) i’w nodi

Llythyr gan y Llywydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Llywydd ynghylch Cofrestru Buddiannau Aelodau.