Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Ystafell Gynadledda C - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Cofnodion:

Nododd Mark Reckless AC y cefndir i sefydlu'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar y Newid yn yr Hinsawdd ('y grŵp') a'i ddiben. 

Roedd adborth gan randdeiliaid wedi nodi bod bwlch wedi'i adael ar ôl dirwyn Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd i ben. Diben y grŵp oedd: defnyddio arbenigedd allanol a llywio'r sesiwn graffu flynyddol ar newid hinsawdd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a dadl dilynol y Cyfarfod Llawn.

Cytunodd Mark Reckless i ysgrifennu at Gadeiryddion Pwyllgorau'r Cynulliad cyn y sesiwn graffu i bwysleisio bod newid hinsawdd yn ymestyn ar draws holl gylchoedd gwaith eu Pwyllgorau.

Cymeradwyodd aelodau'r grŵp y cynllun i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig graffu ar waith Ysgrifenyddion Cabinet, yn arbennig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y cynlluniau ar gyfer Ffordd Liniaru'r M4.

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cyfranogiad y gymuned, a cheisio gwneud materion yn ddealladwy ac yn berthnasol i bobl Cymru. Fodd bynnag, teimlai'r grŵp o ystyried yr adnoddau sydd ar gael nad oedd swyddogaeth allgymorth ac addysg y Comisiwn blaenorol bellach yn bosibl ac y byddai'n well cyfeirio arbenigedd y grŵp tuag at ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

2.

Cyflwyniad gan Peter Davies, Cyn-gadeirydd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd

Cofnodion:

Soniodd Peter Davies am waith y Comisiwn:

-        Ei gylch gwaith oedd darparu cyngor, adeiladu consensws ac annog gweithredu; 

-        Cryfder y Comisiwn oedd ei fod yn annibynnol, ond roedd ganddo hefyd gynrychiolaeth wleidyddol drawsbleidiol;

-        Roedd gwaith allgymorth wedi bod yn werthfawr. Roedd y gydberthynas waith agos gyda'r UKCCC yn bwysig. Roedd y Comisiwn wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddeddfwriaeth, e.e. targedau yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Ymhlith yr elfennau yr oedd pobl yn teimlo y gellid eu gwella roedd:

-        Efallai bod y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru wedi cael ei gyfaddawdu gan fod rhai cynrychiolwyr wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru;

-        Yn aml nid oedd y Comisiwn yn ymwneud yn ddigon cynnar yn y broses o ddatblygu polisi er mwyn cael digon o ddylanwad;

-        Roedd yn amlwg i'r Comisiwn nad oedd gan y tîm newid hinsawdd yn Llywodraeth Cymru ddigon o adnoddau. 

Roedd y meysydd gwaith a awgrymir ar gyfer y grŵp cyfeirio arbenigol yn cynnwys:

-        Atebolrwydd cliriach ar draws y sector cyhoeddus a chysondeb wrth wneud penderfyniadau. 

-        Mae angen i ddull cyson ar draws y llywodraeth e.e. caffael a gwario grantiau - gael ei ymgorffori ar draws meysydd polisi.

3.

Sylwadau gan Jenny Rathbone AC

Cofnodion:

Amlygodd Jenny Rathbone AC yr angen i barhau i adeiladu consensws ar liniaru newid hinsawdd, ar lefel gymunedol ac ar lefel ryngwladol. Mae angen hefyd adeiladu consensws wrth i'r DU adael yr UE. Pwysleisiodd Jenny bwysigrwydd arweinyddiaeth ar draws y llywodraeth a'r sector cyhoeddus. Mae angen dull cydgysylltiedig ar draws Llywodraeth Cymru oherwydd na all Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig gyflawni'r rhwymedigaethau o ran newid hinsawdd heb eraill - mae hwn yn fater i bawb.

4.

Sesiwn drafod - cadeiriwyd gan Marc Wyn Jones, Clerc y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Cofnodion:

Cytunodd y grŵp ar y materion a ganlyn:

-        Bydd y grŵp yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn - unwaith ym mhob tymor y Cynulliad.

-        Bydd y grŵp yn cyfarfod yn breifat, drwy wahoddiad yn unig, ond caiff cofnodion pob cyfarfod eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

-        Gall y grŵp ddefnyddio grwpiau gorchwyl a gorffen llai i ymgymryd â thasgau lle mae angen arbenigedd penodol; 

-        Cyn y cyfarfod nesaf bydd papur yn cael ei baratoi sy'n crynhoi'r canlynol:

1)  Y ddeddfwriaeth berthnasol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a oedd yn nodi camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru ar newid hinsawdd, e.e. Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;

2)  Yr ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gamau gweithredu o ran newid hinsawdd, er enghraifft yn y Rhaglen Lywodraethu;

3)  Y metrigau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i fesur ei llwyddiant wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Trafodwyd y Cylch Gorchwyl a chytunodd yr aelodau, o ystyried yr adnoddau o fewn y grŵp, y dylai'r ffocws fod ar ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Cafodd y cylch gorchwyl arfaethedig ei ddiwygio a chytunwyd arno fel a ganlyn:

Darparu cyngor arbenigol i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i'w gynorthwyo yn ei waith o graffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gyflawni ymrwymiadau polisi, dyletswyddau a thargedau statudol o ran newid hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys mesurau lliniaru ac addasu o ran newid hinsawdd.

Bydd hyn yn cynnwys:

-        darparu cyngor i gefnogi cylch craffu blynyddol;

-        cynorthwyo'r Pwyllgor yn ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Cytunodd y grŵp i wahodd cynrychiolydd o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ddod i'r cyfarfod nesaf i drafod blaenoriaethau a chamau gweithredu'r Comisiynydd mewn perthynas â newid hinsawdd.

 

Yn ystod y sesiwn, trafododd y grŵp hefyd:

-        Yr angen i ymchwilio i newid hinsawdd a'r defnydd o dir yng Nghymru;

-        Y gadwyn fwyd yng Nghymru ac effeithiau newid hinsawdd;

-        Nodwyd fod canran fawr o allyriadau nwyon tŷ gwydr o dan reolaeth Llywodraeth Cymru;

-        Dylai'r gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru archwilio a yw wedi pennu'r targedau cywir, yn ogystal ag a yw'n eu cyrraedd;

-        Awgrymwyd fod y grŵp yn gwahodd arbenigedd o'r grŵp Tyndall;

-        Awgrymwyd fod y grŵp yn cynnal asesiad o gynnydd o ran addasu;

-        Un trywydd ymholi fyddai asesu datganiad Llywodraeth Cymru ar ynni i weld a yw ar y raddfa a'r cyflymder sydd eu hangen i gyrraedd y targedau o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;

-        Gallai'r grŵp ymchwilio i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio ar gyfer metrigau/targedau perfformiad yn y maes hwn.  Er enghraifft, a yw'n defnyddio nifer y tai sydd wedi gosod deunydd inswleiddio o dan y cynllun Arbed fel mesur o lwyddiant?

-        Awgrymwyd y caiff gwaith Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ei werthuso gyda'r bwriad o geisio deall i ba raddau y mae ei argymhellion yn cael eu gweithredu;

-        Awgrymwyd y gallai'r grŵp nodi meysydd posibl lle gallai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymgymryd â gwaith pellach.

 

Aelodau'r Grŵp

Cafwyd trafodaeth ynghylch aelodaeth y grŵp, yn arbennig, a ddylai Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol/cynrychiolydd o'i swyddfa fod yn aelod. 

Teimlai rhai aelodau o ystyried bod 3 o'r 7 nod llesiant yn gysylltiedig â newid hinsawdd ei bod yn hanfodol cynrychioli ei swyddfa. Dywedodd rhai aelodau y byddai'n anodd dwyn ei swyddfa i gyfrif os yw'n aelod o'r grŵp. Awgrymwyd y gallai swyddfa'r Comisiynydd gael statws sylwedydd ar gyfer eitemau penodol mewn rhai cyfarfodydd.

Awgrymwyd y dylai cynrychiolwyr o gronfeydd pensiwn, y diwydiant yswiriant, y sector ariannol ac Energy UK gael eu gwahodd i fod yn rhan o'r grŵp.

Cytunwyd y bydd Cadeirydd y grŵp yn cael ei ethol yn y cyfarfod nesaf.

5.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

22 Mai 2017

Tŷ Hywel, Bae Caerdydd