Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Minutes of the meeting of the Expert Reference Group on Climate Change

Cofnodion:

Y Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Newid yn yr Hinsawdd

Cofnodion y cyfarfod ar 22 Mai 2017 - Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

Camau gweithredu

Tîm clercio’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ddrafftio llythyr at Lywodraeth Cymru, ar ran y Grŵp, i ofyn beth mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud ynghylch newid hinsawdd.

Tîm clercio’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am friff technegol gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU ac i wahodd cynrychiolwyr i gyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Newid yn yr Hinsawdd (y Grŵp) yn y dyfodol.

Tîm clercio’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru pryd y mae’n bwriadu cyhoeddi’r cyngor a gafwyd gan Bwyllgor y DU ar y newid hinsawdd.

Tîm clercio’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru am wybodaeth am dargedau ansoddol.

Aelodau’r grŵp i ddweud wrth y Cadeirydd os ydynt am fod yn rhan o’r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer data.

Tîm clercio’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ddosbarthu fframwaith/profforma i helpu aelodau’r Grŵp i lunio cwestiynau.

Aelodau’r grŵp i gysylltu â’r Cadeirydd gyda phynciau a awgrymwyd a chwestiynau i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yn sesiwn graffu’r Pwyllgor yn ddiweddarach eleni.

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

1.                Cafwyd ymddiheuriadau gan Martin Bishop, Mari Arthur, Steve Brooks, yr Athro Gareth Wyn-Jones a’r Athro Calvin Jones

Ethol y Cadeirydd

2.                Etholwyd Keith Jones (KJ) yn Gadeirydd y Grŵp. Cyflwynodd KJ ei hun i’r Grŵp.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

3.                Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan Eurgain Powell (EP) am waith Swyddfa’r Comisiynydd. Canolbwyntiodd ar bedwar maes:

- Pwrpas a blaenoriaethau polisi Swyddfa’r Comisiynydd.

- Gweithio gyda thîm datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.

- Gwaith ar drafnidiaeth a’r amgylchedd.

- Gwaith ar asesiadau llesiant.

4.                Cytunodd EP i ddarparu gwybodaeth bellach i’r Grŵp am nifer o faterion. Darparwyd papur ar wahân i’r Grŵp.

Trafod papur ar linellau amser a thargedau

5.                Cyflwynodd Jess McQuade (JM) a Haf Elgar (HE) bapur trafod.

6.                Soniodd JM am yr angen am gyd-ddealltwriaeth o bolisi Llywodraeth Cymru ac ymrwymiadau ar y newid hinsawdd. Awgrymodd y gallai’r grŵp ddefnyddio’r targedau a’r cerrig milltir yn y papur fel sail wrth gynllunio’r ffordd orau o gefnogi’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o ran craffu ar Lywodraeth Cymru.

7.                Nodwyd bod cryn dipyn o’r polisi perthnasol heb gael ei ddatganoli a’i fod yn gyfnewidiol ar lefel y DU. Dywedodd HE ei bod yn ymwneud â sut y mae Cymru yn elwa yn y meysydd nas datganolwyd. Soniodd JM am y ffaith i gyhoeddiadau gael eu gwneud am bolisïau/rhaglenni a chanddynt ddimensiwn newid hinsawdd, ond nid oes pwynt canolog i gydgysylltu’r wybodaeth honno.

8.                Yn ystod y drafodaeth, awgrymwyd y dylai’r Grŵp greu rhestr o gamau gweithredu, yn seiliedig naill ai ar gyfleoedd i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru neu gan y fframwaith cyfreithiol a’r hyn y mae angen ei wneud i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif.

9.                Codwyd sawl mater arall yn ystod y trafodaethau, gan gynnwys:

- Dylid seilio craffu ar Lywodraeth Cymru ar y pum ffordd o weithio.

- Mae angen gwell dealltwriaeth o’r metrigau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio ac o’r ffigurau llinell sylfaen a ddefnyddir. Cododd nifer o aelodau’r grŵp gwestiynau am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio fel sail ar gyfer ei pholisïau, gan gynnwys rhagamcanion hyd at 2050.

- Byddai cyfle i randdeiliaid ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei chynllun cyflenwi lleihau carbon.

- Dylai’r Grŵp gytuno ar fethodoleg glir ar gyfer ei waith monitro.

- Gallai’r Grŵp geisio gwirio a yw targedau yn cael eu cyflawni a hefyd geisio dylanwadu ar y gwaith o osod targedau. Bydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn yr hydref; felly bydd hynny’n gyfle i’r Grŵp gymryd rhan.

- Cafodd y targed 2050 ei osod yn Neddf yr Amgylchedd, sy’n cynnwys darpariaeth i’r targed hwnnw gael ei adolygu.

- Awgrymwyd y gellid defnyddio nodau datblygu byd-eang Mission 2020 fel adnodd.

- Nodwyd i Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU gynnal adolygiad o effaith newid hinsawdd ar draws y DU ac y bydd Llywodraeth Cymru’n integreiddio hyn yn ei gwaith. Cytunodd y Grŵp i glywed yn uniongyrchol gan Bwyllgor y DU.

Trafod y gwaith y dyfodol

10.            Atgoffodd y Clerc y Grŵp fod modd iddo gael data gan Lywodraeth Cymru drwy’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Soniodd hefyd y bydd sesiwn graffu flynyddol y Pwyllgor ar newid hinsawdd yn cael ei chynnal ddiwedd mis Hydref neu ddechrau mis Tachwedd ac y dylai gwaith y Grŵp lywio’r broses honno. Cytunodd y Grŵp i baratoi adroddiad i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, gan awgrymu meysydd iddo ganolbwyntio arnynt o bosibl yn ei sesiwn gyda’r Ysgrifennydd Cabinet (Lesley Griffiths AM).

11.            Cytunodd y grŵp i baratoi cynigion ar gyfer cwestiynau i’r sesiwn graffu flynyddol cyn ei gyfarfod nesaf, a’r rheini yn seiliedig ar dempled a ddarperir gan yr ysgrifenyddiaeth.  

12.            Cytunodd y Grŵp i wahodd cynrychiolydd o Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU i’w gyfarfod nesaf.

13.            Cytunwyd y byddai aelodau’r Grŵp yn ffurfio is-grŵp i ystyried data.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

14.            Awgrymwyd y dylid cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Medi. Byddai’r dyddiad yn cael ei gadarnhau yn fuan wedyn.