Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.15-10.20)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(10.20-10.35)

2.

Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd

Cofnodion:

2.1     Trafododd y Pwyllgor ei strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd a chytunodd i drafod y mater eto yn ei gyfarfod nesaf.

 

(10.35-10.50)

3.

Blaenraglen waith

Cofnodion:

3.1     Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd i drafod y mater eto yn ei gyfarfod nesaf.

 

(10.50-11.50)

4.

Sesiwn briffio technegol ar systemau etholiadol

Jess Blair, Cyfarwyddwr, Electoral Reform Society Cymru

Michela Palese, Swyddog Ymchwil a Pholisi, Electoral Reform Society

Ian Simpson, Swyddog Ymchwil, Electoral Reform Society

Cofnodion:

4.1     Cafwyd ymddiheuriadau gan Jess Blair.

4.2     Cafodd y Pwyllgor bapur briffio technegol gan Michaela Palese ac Ian Simpson o’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol.