Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/12/2019 - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd - Y Pumed Cynulliad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.15-10.20)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Cafwyd ymddiheuriadau gan Delyth Jewell AC; dirprwyodd Dai Lloyd AC ar ei rhan.

 

(10.20-11.50)

2.

Sesiwn tystiolaeth lafar gyda'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad

Elin Jones AC, y Llywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol, Comisiwn y Cynulliad

Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan aelodau’r panel.

2.2     Cytunodd y Llywydd i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor.

 

2.1

Sesiwn tystiolaeth lafar am amrywiaeth y Cynulliad - sesiwn dystiolaeth gyda'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad

2.2

Sesiwn tystiolaeth lafar am chapasiti'r Cynulliad - sesiwn dystiolaeth gyda'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad

(11.50-11.55)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

3.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.55-12.10)

4.

Sesiwn tystiolaeth lafar am amrywiaeth a chapasiti'r Cynulliad - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

4.2     Cytunodd yr Aelodau i ofyn i’r Llywydd roi’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         Mesurau i gynyddu capasiti'r Cynulliad heb gynyddu maint y Cynulliad.

·         Enghreifftiau o ddeddfwrfeydd datganoledig sydd â threfniadau ar waith i weithio ar y cyd â haenau llywodraethu eraill fel rhan o'u busnes seneddol ffurfiol.

·         Dadansoddiad o amseroedd eistedd y Cynulliad a nifer yr wythnosau y mae’r sefydliad yn eistedd, ac unrhyw oblygiadau o ran capasiti'r Cynulliad a gallu’r Aelodau i gyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau eraill.

·         Amcangyfrif o gostau unrhyw gynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.

·         Gwybodaeth am sut y gallai mesurau i annog amrywiaeth gael eu cyflwyno er mwyn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

·         Barn ar i ba raddau y mae'r fframwaith datganoli presennol yn galluogi casglu data am ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad, ac unrhyw gamau y gallai Comisiwn y Cynulliad neu eraill eu cymryd heb yr angen am ddeddfwriaeth bellach.

 

 

4.1

Sesiwn tystiolaeth lafar am amrywiaeth y Cynulliad - trafod y dystiolaeth

4.2

Sesiwn tystiolaeth lafar am chapasiti'r Cynulliad - trafod y dystiolaeth

(12.10-12.30)

5.

Blaenraglen waith

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith cyn cytuno arni.

 

(12.30-12.40)

6.

Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd

Cofnodion:

6.1     Cytunodd y Pwyllgor ar ei strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd.