Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/01/2020 - Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd - Y Pumed Cynulliad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(10.15-11.00)

2.

Sesiwn dystiolaeth lafar ar amrywiaeth yn y Cynulliad - sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru

Ruth Coombs, Pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru.

 

(11.00-11.45)

3.

Sesiwn dystiolaeth lafar ar amrywiaeth yn y Cynulliad - sesiwn dystiolaeth gydag academyddion

Yr Athro Rosie Campbell, Kings College London

Dr Nicole Martin, The University of Manchester

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel.

3.2     Cytunodd yr Athro Rosie Campbell i ddarparu ymchwil berthnasol i’r Pwyllgor mewn perthynas â rhannu swyddi.

 

(11.45-11.50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.50-12.05)

5.

Sesiynau tystiolaeth lafar am amrywiaeth y Cynulliad - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i ofyn am ei farn ar rannu swyddi a sut y gallai wella amrywiaeth.

 

(12.05-12.20)

6.

Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor ei strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd a chytunodd i drafod y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(12.20-12.25)

7.

Blaenraglen waith

Cofnodion:

7.1     Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd i drafod y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.