Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2  Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rowlands AC; nid oedd unrhyw un yn dirprwyo ar ei ran.

(10.00–10.05)

2.

Ymwneud â Senedd Ieuenctid Cymru

Cofnodion:

2.1  Ystyriodd a chytunodd y Pwyllgor ei ddull o ymwneud â Senedd Ieuenctid Cymru.

(10.05–10.15)

3.

Systemau a ffiniau etholiadol: y dull o weithredu'r ymchwiliad

Cofnodion:

3.1  Cytunodd y Pwyllgor amserlen ar gyfer ymweliad i Gaeredin er mwyn llywio ei ymchwiliad i systemau a ffiniau etholiadol.

3.2  Cytunodd y Pwyllgor ei ddull o gasglu tystiolaeth i lywio ei ymchwiliad.

(10.15–12.00)

4.

Systemau a ffiniau etholiadol: sesiwn briffio technegol

Dr Alan Renwick, Uned y Cyfansoddiad, Coleg Prifysgol Llundain

Cofnodion:

4.1  Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio technegol gan Dr Alan Renwick o Uned Cyfansoddiad Coleg Prifysgol Llundain.