Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Fideogynhadledd drwy Zoom
Cyswllt: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r
cyfarfod; nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y
Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er
mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.20, dywedodd y Cadeirydd
fod Comisiwn y Senedd wedi penderfynu ei bod yn anymarferol darlledu'r
trafodion. 1.4 Cytunodd yr Aelodau y dylid apwyntio fel Huw
Irranca-Davies AS fel Cadeirydd Dros Dro os digwydd i’r Cadeirydd fethu cadeirio
o ganlyniad i anawsterau technegol. 1.5 Nododd y Cadeirydd mai dyma oedd cyfarfod olaf
Stephen Aldhouse fel Ail Glerc, ac estynnodd ddiolch iddo am ei gyfraniad at
waith y Pwyllgor. |
|
(14.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a chyfarfod nesaf y Pwyllgor Cofnodion: 2.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.00–14.40) |
Blaenraglen waith Cofnodion: 3.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. |
|
(14.40–14.45) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1 Nodwyd y papurau. |
|
Ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor ar y cofnod o faterion a drafodwyd yn ystod digwyddiad i randdeiliaid y Pwyllgor ar gapasiti'r Senedd Dogfennau ategol:
|
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch deddfwriaeth pwyllgor – 22 Ebrill 2020 Dogfennau ategol: |
||
Cyflwyniad ysgrifenedig gan yr Athro Laura McAllister ynghylch mecanweithiau deddfwriaethol a Biliau drafft – Mai 2020 Dogfennau ategol: |