Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.05)

Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod ar 30 Tachwedd

 

Cofnodion:

§  Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymunodd Mike Redhouse a Hugh Widdis yn rhithwir.

 

§  Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 a 30 Tachwedd.

 

Cam i’w gymryd:

 

§  Bydd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 a 30 Tachwedd.

2.

Diweddariad economaidd (9.05 - 9.20)

Eitem lafar – Diweddariad economaidd

Cofnodion:

§    Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan Martin Jennings (Pennaeth Uned Craffu Ariannol y Tîm Ymchwil) ar yr hinsawdd economaidd bresennol a’r rhagolygon.

Penderfyniad:

§    Cytunodd y Bwrdd i rannu'r Diweddariad Economaidd a baratowyd gan Wasanaeth Ymchwil Comisiwn y Senedd gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr.

 

3.

Adolygiad Blynyddol o Benderfyniad 2024-25 - trafodaeth gychwynnol ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad (9.20 - 10.45)

Papur 2 - Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

Papur 3 – Ymatebion i'r ymgynghoriad

 

Cofnodion:

§    Fe wnaeth y Bwrdd ystyried yr ymatebion a gafwyd ynghylch yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad a thrafododd a oedd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol i lywio penderfyniadau terfynol ar Benderfyniad 2024-25 cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd.

Cam i’w gymryd:

§    Nododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a bydd yn gwneud ei benderfyniadau terfynol ar y Penderfyniad diwygiedig yng nghyfarfod mis Mawrth.

 

 

4.

Trafodaeth: Adolygiad Thematig a Chynllunio ar gyfer y Penderfyniad (11.00 - 12.30)

Papur 4 - Trafodaeth: Adolygiad Thematig a Chynllunio ar gyfer y Penderfyniad

 

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd y cynnydd hyd yma o ran cynnal ei bum adolygiad thematig a materion cyffredin sy’n dod i’r amlwg, ac ystyriodd y camau nesaf ar gyfer cyflawni’r Penderfyniad ar gyfer Seithfed Senedd.

Cam i’w gymryd:

§    Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi papur ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth i lywio penderfyniadau ar gamau nesaf ei raglen o adolygiadau thematig.

 

5.

Papur Diweddaru (12.30 - 12.45)

Papur 5 – Papur diweddaru

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a hefyd ei flaenraglen waith.

§    Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a ddaeth i law ac a anfonwyd ers y cyfarfod diwethaf.

§    Nododd y Bwrdd sawl diweddariad yn ymwneud â Chynllun Pensiwn yr Aelodau, gan gynnwys rhwymedi McCloud. Fel aelod o Gynllun Pensiwn Tŷ’r Cyffredin, datganodd Syr David Hanson fuddiant, gan fod rhwymedi McCloud hefyd yn gymwys i gynllun Tŷ’r Cyffredin.

§    Nododd y Bwrdd ddiweddariad gan y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau MBS ar y cynllun peilot o archebu canolog ar gyfer llety mewn gwesty a chaffael cyfleustodau i’r Aelodau. Croesawodd y Bwrdd y datblygiadau hyn a chytunwyd i ystyried diweddariadau pellach yn nhymor yr haf. 

§    Nododd y Bwrdd ddiweddariad yn dilyn adolygiad y Comisiwn o’r Arolwg Urddas a Pharch. Bydd y Bwrdd yn ystyried hyn ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol yn dilyn trafodaeth gyda Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

§    Cadarnhaodd aelodau’r Bwrdd pwy fydd yn bresennol ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd i’w gynnal ddydd Iau 14 Mawrth 2024.