Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan,
roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei rhan. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn: · Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Tata Steel (45 munud) · · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.45pm. Dydd
Mercher Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes nad yw'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn
gallu ymateb i ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid llywodraeth leol gan y bydd
yn teithio i gyfarfod rhyngweinidogol yn yr Alban. Bydd y Gweinidog Cyfiawnder
Cymdeithasol a'r Prif Chwip yn ymateb i'r ddadl yn ei lle. · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth am y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
30 Ionawr 2024 · Datganiad gan y Prif Weinidog
· Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Papur gwyn ar gyfer Bil arfaethedig ar egwyddorion amgylcheddol,
llywodraethu amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth (30 munud) · Dydd Mawrth
6 Chwefror 2024 · Gwasanaethau Preswyl Ysgolion
Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 31 Ionawr 2024 - · Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog
(5 munud) Dydd Mercher 21 Chwefror 2024 - ·
Dadl ar
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Ymchwiliad i
Lywodraethiant y DU a’r UE (45 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer:
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) (30 munud) |
|
Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol
ar 31 Ionawr: Mabon ap Gwynfor NNDM8434 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i
sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff
rheoleiddio. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) sefydlu corff rheoleiddio
proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir
gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r
safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai
ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar
ei gofrestr a gynhelir; b) diffinio beth yw rheolwr GIG
Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac c) ei gwneud yn ofynnol i holl
reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch slotiau cyfarfod Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais
gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru i gyfarfod ar 20
Chwefror, 19 Mawrth a dyddiau Mawrth dilynol pan fo angen, cyn cytuno ar slot
parhaol ar ddyddiad i ddod. |
|
Diwygio'r Senedd |
|
Ystyried argymhellion i'r Pwyllgor Busnes sy'n deillio o adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Cofnodion: Business Committee considered the recommendations made to it by the
Reform Bill Committee and agreed its response. |
|
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Bil Cydgrynhoi Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft sy'n cynnwys cynigion i ddiwygio Rheolau
Sefydlog sy’n ymwneud â Biliau Cydgrynhoi sy'n deillio o'i adolygiad cyfyngedig
o'r gweithdrefnau hynny a chytunodd arnynt. Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno
cynnig yn cynnig bod y Senedd yn cytuno ar y newidiadau arfaethedig i’w drafod
ddydd Mercher 31 Ionawr. |
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan · Ymateb gan y Pwyllgor Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol · Ymateb gan y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad · Ymateb gan Fforwm y Cadeiryddion · Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad · Papur ar y gweithdrefnau sy'n ofynnol er
mwyn craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas
Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan” Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ymatebion a gafwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Fforwm y Cadeiryddion a'r
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gynigion i ddiwygio'r Rheolau
Sefydlog. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i rannu'r ymatebion a dderbyniwyd ac i roi cyfle i'r rhai sydd
eisoes wedi darparu gwybodaeth i ddarparu rhagor o fyfyrdodau, cyn dychwelyd at
y mater o wneud newidiadau i'r Rheolau Sefydlog mewn cyfarfod yn y
dyfodol. |
|
Y Rheolau Sefydlog |