Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 6.18, ar gais y Llywydd, cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - flwyddyn yn ddiweddarach (45 munud) 

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Pwyllgor y Senedd Gyfan yn ymgynnull am gyfarfod byr, yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn, i ystyried cynnig i gytuno ar y Drefn Ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).

 

Dydd Mercher

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - flwyddyn yn ddiweddarach (45 munud) symudwyd ymlaen i 20 Chwefror

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu LHDTC+ (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (30 munud)

 

Gofynnodd Heledd Fychan am ddatganiad llafar ar fuddsoddi mewn addysg a hyfforddi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 14 Chwefror. Dywedodd y Trefnydd y byddai'r Llywodraeth yn ystyried y cais.

 

Gofynnodd Darren Millar am ddatganiad llafar ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Dywedodd y Trefnydd na fyddai datganiad llafar yn cael ei drefnu nes bod ymgynghoriad ar y Cynllun wedi cau ar 7 Mawrth, ac y dylai'r Aelodau annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y mae’r Cynllun wedi’i ddylunio achub ar y cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad.

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 13 Mawrth 2024 –

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Adfywio Canol Trefi (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Hefin David (Caerffili) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Ymateb gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch yr amserlenni ar gyfer y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlenni diwygiedig ar gyfer craffu ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).

 

 

4.2

Nodyn ar rôl y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

4.3

Nodyn ar y broses ar gyfer penodi Cwnsler Cyffredinol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 

4.4

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i:

  • gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig a osodwyd ar 13 Chwefror 2024 i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad graffu arno, gyda dyddiad terfynol o 19 Ebrill 2024 i gyflwyno adroddiad.
  • diwygio'r cyfnod adrodd ar gyfer memoranda a osodir mewn perthynas â'r Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), gyda dyddiad terfynol newydd o 8 Mawrth 2024 i gyflwyno adroddiad;
  • diwygio'r cyfnod adrodd ar gyfer memoranda a osodir mewn perthynas â'r Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw), gyda dyddiad terfynol newydd o 8 Mawrth 2024 i gyflwyno adroddiad.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud cais am estyniad i'w cyfarfod ar 26 Chwefror

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gwrdd yn gynharach ar 26 Chwefror.

 

 

6.

Gwaith Gweithdrefnol

6.1

Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar Rannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor a chytunodd i gynnal trafodaeth bellach yn y cyfarfod nesaf, yn dilyn trafodaethau gyda grwpiau pleidiau.