Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Dirprwy Lywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·       Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Rhaglen Buddsoddi ar gyfer Llifogydd 2024/25 (30 munud) - i'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Ailgydbwyso gofal a chymorth (30 munud) - i'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

·       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·       Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (5 munud):

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 1

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) - cynnig 2

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm

 

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei fod yn bwriadu galw ar arweinwyr y pleidiau a chynrychiolydd o’r grŵp Llafur i siarad yn ystod datganiad ymddiswyddo’r Prif Weinidog, ac y bydd y Prif Weinidog yn cael ei alw i ymateb unwaith, yn dilyn y cyfraniadau hynny.

 

Mynegodd Heledd Fychan siom ar ran grŵp Plaid Cymru y bydd y datganiad ar Ailgydbwyso gofal a chymorth yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig bellach.

 

Dydd Mercher

 

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yr eitem a ganlyn yn cael ei hychwanegu at agenda dydd Mercher fel yr eitem gyntaf o fusnes, unwaith y bydd hysbysiad yn dod i law bod Ei Fawrhydi wedi derbyn ymddiswyddiad y Prif Weinidog: Enwebu’r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

 

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod ceisiadau wedi'u cymeradwyo i gynnal gweithgareddau cyfryngau amrywiol yn y Siambr ac o'i chwmpas dros y ddau ddiwrnod nesaf.

 

·       Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·       Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024

 

·       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion (30 munud) - wedi’i ohirio tan 30 Ebrill

 

Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024

 

·       Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 (15 munud)

 

Nododd y Trefnydd fod Cyfnod 3 o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) wedi’i drefnu ar gyfer 30 Ebrill ac mai ychydig iawn o fusnes arall y Llywodraeth a fydd yn cael ei drefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw oherwydd hyd tebygol y trafodion hynny.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 1 Mai 2024 -

·      Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: Gaeaf Cynhesach P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·      Dadl fer (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Ymateb gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch amserlen y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried ymateb gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chytunodd i’w gais i bennu 26 Gorffennaf 2024 fel terfyn amser ar gyfer Cyfnod 1. Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar y dyddiadau eraill ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil.

Dywedodd y Trefnydd nad yw’r Llywodraeth o’r farn bod y newid hwn yn gosod cynsail ar gyfer amserlenni biliau eraill.

 

 

4.2

Y Broses Craffu ar Ddeddfwriaeth Sylfaenol: Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau

Cofnodion:

Nododd Pwyllgor Busnes bapur ar y terfynau amser cyflwyno ar gyfer gwelliannau, a oedd yn cynnwys ffocws ar y profiad diweddar o ran Bil Seilwaith (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai swyddogion gyflwyno papur arall yn cynnwys opsiynau posibl ar gyfer ymestyn y bwlch rhwng cyhoeddi grwpiau ar gyfer Cyfnod 2 a Chyfnod 3 a'r trafodion hynny, cyn adolygu'r broses graffu ar gyfer Biliau a fwriedir yn ddiweddarach yn ystod y Senedd hon.

 

 

4.3

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atogol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau o 29 Ebrill 2024 ar gyfer cyflwyno adroddiad.

 

 

4.4

Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch eu hadroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor i dderbyn Argymhelliad 3 yn ei adroddiad ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ynghylch slotiau cyfarfod

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais y Pwyllgor i gyfarfod ddydd Gwener 26 Ebrill, neu ddydd Gwener arall yn ystod y tymor nesaf, yn dibynnu ar argaeledd y Prif Weinidog newydd, i graffu ar y Prif Weinidog newydd, a chytunodd i’r cais.

Nododd Heledd Fychan ei siom bod cyfarfod yr wythnos hon yn cael ei ganslo ar fyr rybudd o ystyried bod yr amserlen ar gyfer newid Prif Weinidog wedi bod yn hysbys ers peth amser.