Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 181(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4, 5 a 7 gan Ddirprwy Weinidog y
Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a
Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i
wneud o sut mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post yn parhau i effeithio ar fywydau
trigolion yng Nghymru? Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Sam
Rowlands (Gogledd Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am Arriva
yn newid pob gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru o ganlyniad i'r terfyn cyflymder
diofyn 20mya yng Nghymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.35 Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Gymdeithasol Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy): Pa asesiad y mae'r Gweinidog
wedi'i wneud o sut mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post yn parhau i effeithio ar
fywydau trigolion yng Nghymru? Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Sam
Rowlands (Gogledd Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am Arriva yn newid pob
gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru o ganlyniad i'r terfyn cyflymder diofyn 20mya
yng Nghymru? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.29 Gwnaeth Mike Hedges
ddatganiad am - Diwrnod ymwybyddiaeth
canserau llai goroesadwy (11 Ionawr). Gwnaeth Sarah Murphy
ddatganiad am - Teyrnged i JPR Williams. Gwnaeth Sam Rowlands
ddatganiad am - Côr Meibion Maelgwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well NDM8446 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Amser rhoi diwedd ar dlodi
plant: sut y gall Cymru wneud yn well” a osodwyd ar 6
Tachwedd 2023. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 19 Rhagfyr 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.35 NDM8446 Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Amser rhoi diwedd ar dlodi
plant: sut y gall Cymru wneud yn well” a osodwyd ar 6 Tachwedd 2023. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 19 Rhagfyr 2023. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau PISA NDM8447 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi canlyniadau
Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, a gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023. 2. Yn gresynu at y
ffaith: a) bod
perfformiad Cymru wedi gostwng i'w lefel isaf erioed mewn profion mathemateg,
darllen a gwyddoniaeth a gymerwyd gan bobl ifanc 15 oed; b) mai canlyniadau
Cymru oedd yr isaf o holl wledydd y DU, am y pumed tro yn olynol; ac c) bod canlyniadau
Cymru yn is na chyfartaledd yr OECD. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) blaenoriaethu
addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth; b) sicrhau bod y rhai
sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt, heb unrhyw
doriadau i anghenion dysgu ychwanegol yng nghyllideb 2024-25; c) ailgyflwyno math o
brofion safonedig ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu rhieni ac
athrawon i fonitro cynnydd dysgwyr yn ystod cyfnodau allweddol a chymharu
perfformiad; d) datblygu rhaglen
well ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog; ac e) cael gwared ar y
consortia addysg rhanbarthol a buddsoddi arbedion a wnaed yng nghyllidebau
ysgolion. Canlyniadau
PISA 2022
(Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod y pandemig
wedi effeithio ar sgoriau PISA ledled y byd. Yn cydnabod bod Cymru
wedi gweld gwelliant mewn llythrennedd a rhifedd yng nghanlyniadau PISA 2018,
fodd bynnag mae’r cynnydd hwnnw wedi dirywio ers y pandemig. Yn croesawu: a) lansio cynlluniau llythrennedd a rhifedd i
godi safonau yn y meysydd allweddol hyn; b) bod y cyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion
Dysgu Ychwanegol wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod
wedi’i ddiogelu yn y gyllideb ddrafft; c) bod Asesiadau Personol ar-lein yn cael eu
defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i gefnogi addysgu a dysgu, ac y bydd data
o’r asesiadau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol i olrhain cynnydd; a d) sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i
gefnogi ysgolion i wella cyfraddau presenoldeb. Cyllideb
Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) blaenoriaethu'r
gwaith o recriwtio a chadw athrawon a chynorthwywyr addysgu, yng ngoleuni data
CGA sy'n dangos bod 16% o athrawon ysgol yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn
y tair blynedd nesaf a bod tua 40% o staff cymorth dysgu yn bwriadu gadael yn y
5 mlynedd cyntaf; b) sicrhau bod y rhai
sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt, gan gynnwys
drwy gyfrwng y Gymraeg, heb unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i anghenion dysgu
ychwanegol yng nghyllideb 2024-25; c)
lansio adolygiad cyflym i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb addysg yng Nghymru,
gan adrodd ar gyfres o argymhellion ystyrlon a'u gweithredu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.31 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8447 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, a
gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023. 2. Yn gresynu at y ffaith: a) bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'w lefel isaf erioed mewn
profion mathemateg, darllen a gwyddoniaeth a gymerwyd gan bobl ifanc 15 oed; b) mai canlyniadau Cymru oedd yr isaf o holl wledydd y DU, am y pumed tro
yn olynol; ac c) bod canlyniadau Cymru yn is na chyfartaledd yr OECD. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i
ystafelloedd dosbarth; b) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y
cymorth cywir yn gynt, heb unrhyw doriadau i anghenion dysgu ychwanegol yng
nghyllideb 2024-25; c) ailgyflwyno math o brofion safonedig ar draws ysgolion ac awdurdodau
lleol i helpu rhieni ac athrawon i fonitro cynnydd dysgwyr yn ystod cyfnodau
allweddol a chymharu perfformiad; d) datblygu rhaglen well ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog; ac e) cael gwared ar y consortia addysg rhanbarthol a buddsoddi arbedion a
wnaed yng nghyllidebau ysgolion. Canlyniadau PISA 2022 (Saesneg yn unig)
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod y pandemig
wedi effeithio ar sgoriau PISA ledled y byd. Yn cydnabod bod Cymru
wedi gweld gwelliant mewn llythrennedd a rhifedd yng nghanlyniadau PISA 2018,
fodd bynnag mae’r cynnydd hwnnw wedi dirywio ers y pandemig. Yn croesawu: a) lansio
cynlluniau llythrennedd a rhifedd i godi safonau yn y meysydd allweddol hyn; b) bod
y cyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cynyddu’n
sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod wedi’i ddiogelu yn y gyllideb
ddrafft; c) bod
Asesiadau Personol ar-lein yn cael eu defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i
gefnogi addysgu a dysgu, ac y bydd data o’r asesiadau yn cael eu cyhoeddi’n
flynyddol i olrhain cynnydd; a d) sefydlu
Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i gefnogi ysgolion i wella cyfraddau
presenoldeb. Cyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru 2024-25 Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi
ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, a
gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023. 2. Yn nodi bod y
pandemig wedi effeithio ar sgoriau PISA ledled y byd. 3. Yn cydnabod bod Cymru
wedi gweld gwelliant mewn llythrennedd a rhifedd yng nghanlyniadau PISA 2018,
fodd bynnag mae’r cynnydd hwnnw wedi dirywio ers y pandemig. 4. Yn croesawu: a) lansio
cynlluniau llythrennedd a rhifedd i godi safonau yn y meysydd allweddol hyn; b) bod
y cyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cynyddu’n
sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod wedi’i ddiogelu yn y gyllideb
ddrafft; c) bod
Asesiadau Personol ar-lein yn cael eu defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i
gefnogi addysgu a dysgu, ac y bydd data o’r asesiadau yn cael eu cyhoeddi’n
flynyddol i olrhain cynnydd; a d) sefydlu
Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i gefnogi ysgolion i wella cyfraddau
presenoldeb. Cyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru 2024-25
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol NDM8445 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 28 y
cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. 2. Yn nodi'r
gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad addysgol. 3. Yn nodi'r
canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a ddangosodd fod 11 y
cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi methu pryd o fwyd oherwydd tlodi. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) ymestyn y
ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd
hynny sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, heb uchafswm o ran enillion; a b) gweithredu
targedau statudol yn y Strategaeth Tlodi Plant derfynol i gyfrannu at gau'r
bwlch cyrhaeddiad a gwella canlyniadau addysg. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn credu mai addysgu a
dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r
afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Yn croesawu: a) gwell
ffocws mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar yr ystod o ddulliau addysgu a
dysgu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar brofiadau a
deilliannau dysgwyr. b) diogelu
yn y gyllideb ddrafft y Grant Datblygu Disgyblion a chanllawiau newydd i
gefnogi ysgolion i dargedu’r cyllid hwn yn well. c) y
gwaith a wneir gan Bencampwyr Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru i rannu eu
profiadau o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a’r bwriad i
ddatblygu hyn ymhellach. d) y rôl y
gall Ysgolion Bro ei chwarae i helpu rhieni a theuluoedd i gymryd diddordeb yn
addysg y plant, ac i ddatblygu’r amgylchedd dysgu yn y cartref. e)
rhaglenni fel Hanfodion Ysgol a Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf sy’n darparu
cymorth amhrisiadwy i leihau costau byw i deuluoedd. Yn nodi bod
canlyniadau PISA wedi canfod bod addysg yng Nghymru yn decach na chyfartaledd
yr OECD a gwledydd eraill y DU, gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng dysgwyr
mwy difreintiedig a dysgwyr llai difreintiedig. Cyllideb
Ddrafft 2024 i 2025 Llywodraeth Cymru Grant
Datblygu Disgyblion: canllawiau Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ym mhwynt 4, dileu
isbwynt a) a rhoi yn ei le: hyrwyddo'r
ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd
hynny sy'n cael Credyd Cynhwysol; Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: mynd i'r afael â'r
tanberfformiad economaidd sy'n achosi tlodi plant yng Nghymru; Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: gwella effeithlonrwydd
ac effeithiolrwydd rhaglenni sy’n cael eu hariannu â grantiau; Gwelliant 5 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: cydnabod bod atebion
syml sy'n canolbwyntio ar eu galluogi i gael y gorau o addysg prif ffrwd,
yn hollbwysig i'r mwyafrif helaeth o blant sy'n byw mewn tlodi; Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.16 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8445 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. 2. Yn nodi'r gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad
addysgol. 3. Yn nodi'r canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a
ddangosodd fod 11 y cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi methu pryd o fwyd oherwydd
tlodi. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar
gyfer yr aelwydydd hynny sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, heb uchafswm o ran
enillion; a b) gweithredu targedau statudol yn y Strategaeth Tlodi Plant
derfynol i gyfrannu at gau'r bwlch cyrhaeddiad a gwella canlyniadau addysg.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 4 a rhoi yn
ei le: Yn credu mai addysgu a
dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r
afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Yn croesawu: a) gwell
ffocws mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar yr ystod o ddulliau addysgu a
dysgu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar brofiadau a
deilliannau dysgwyr. b) diogelu
yn y gyllideb ddrafft y Grant Datblygu Disgyblion a chanllawiau newydd i
gefnogi ysgolion i dargedu’r cyllid hwn yn well. c) y gwaith
a wneir gan Bencampwyr Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru i rannu eu profiadau o
fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a’r bwriad i ddatblygu hyn
ymhellach. d) y rôl y
gall Ysgolion Bro ei chwarae i helpu rhieni a theuluoedd i gymryd diddordeb yn
addysg y plant, ac i ddatblygu’r amgylchedd dysgu yn y cartref. e) rhaglenni
fel Hanfodion Ysgol a Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf sy’n darparu cymorth
amhrisiadwy i leihau costau byw i deuluoedd. Yn nodi bod canlyniadau
PISA wedi canfod bod addysg yng Nghymru yn decach na chyfartaledd yr OECD a
gwledydd eraill y DU, gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng dysgwyr mwy
difreintiedig a dysgwyr llai difreintiedig. Cyllideb Ddrafft 2024 i
2025 Llywodraeth Cymru Grant Datblygu Disgyblion:
canllawiau Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu
dad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8445 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) 1. Yn nodi bod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. 2. Yn nodi'r gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad
addysgol. 3. Yn nodi'r canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a
ddangosodd fod 11 y cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi methu pryd o fwyd oherwydd
tlodi. 4. Yn credu mai addysgu
a dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r
afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. 5. Yn croesawu: a) gwell
ffocws mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar yr ystod o ddulliau addysgu a
dysgu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar brofiadau a
deilliannau dysgwyr. b) diogelu
yn y gyllideb ddrafft y Grant Datblygu Disgyblion a chanllawiau newydd i
gefnogi ysgolion i dargedu’r cyllid hwn yn well. c) y gwaith
a wneir gan Bencampwyr Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru i rannu eu profiadau o
fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a’r bwriad i ddatblygu hyn
ymhellach. d) y rôl y
gall Ysgolion Bro ei chwarae i helpu rhieni a theuluoedd i gymryd diddordeb yn
addysg y plant, ac i ddatblygu’r amgylchedd dysgu yn y cartref. e) rhaglenni
fel Hanfodion Ysgol a Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf sy’n darparu cymorth
amhrisiadwy i leihau costau byw i deuluoedd. 6. Yn nodi bod
canlyniadau PISA wedi canfod bod addysg yng Nghymru yn decach na chyfartaledd
yr OECD a gwledydd eraill y DU, gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng dysgwyr
mwy difreintiedig a dysgwyr llai difreintiedig. Cyllideb Ddrafft 2024 i
2025 Llywodraeth Cymru Grant Datblygu Disgyblion:
canllawiau
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.11 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8444 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Methu
cynllunio, cynllunio methiant - pam mae angen aildrefnu cynllunio yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.16 NDM8444 Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Methu cynllunio, cynllunio methiant - pam mae angen
aildrefnu cynllunio yng Nghymru |