Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 193 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-3, 5-6 ac 8-12. Tynnwyd cwestiynau 4 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.17

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg bellach yng Nghampws Rhydaman Coleg Sir Gâr yn y dyfodol?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

Atebwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg bellach yng Nghampws Rhydaman Coleg Sir Gâr yn y dyfodol?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am - Scouts Cymru – Cystadleuaeth Bathodyn Dydd Gŵyl Dewi.

Gwnaeth John Griffiths ddatganiad am - Dan Simms yn cerdded o Gil-y-coed i Amsterdam i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion yn dilyn marwolaeth dau ffrind trwy hunanladdiad (24 Chwefror – Mawrth).

Gwnaeth Laura Anne Jones ddatganiad am - Ivor o Sir Fynwy sydd â Syndrom Angelman, a gerddodd o amgylch ei bentref bob dydd am fis i godi ymwybyddiaeth ac arian.

(60 munud)

5.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23

NDM8495 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2023.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.13

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy

NDM8496 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu y bydd cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru yn arwain at amcangyfrif o:

a) 122,200 o ostyngiad yn nifer y da byw yng Nghymru;

b) 5,500 o swyddi yn cael eu colli ar ffermydd Cymru; ac

c) colled o £199 miliwn i'r economi wledig.

2. Yn cydnabod cryfder y teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy.

3. Yn nodi'r arolwg a gomisiynwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru sydd wedi canfod mai dim ond 3 y cant o ffermwyr yng Nghymru sy'n ymddiried yn Llywodraeth Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu'r gofyniad i bob fferm gael 10 y cant o orchudd coed; a

b) dileu cynigion presennol y cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â'r sector ffermio i ddatblygu cynllun newydd y mae'r gymuned ffermio yn ei gefnogi.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod cyfraniad allweddol ffermio ac amaethyddiaeth at dirlun cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru.

2. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal lefelau cynllun y taliad sylfaenol yn 2024 er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo i’r cynllun ffermio cynaliadwy.

3. Yn croesawu’r ymgysylltu gyda ffermwyr a rhanddeiliaid sydd wedi arwain at newidiadau cadarnhaol i’r gwaith o lunio’r cynllun ffermio cynaliadwy ers cyhoeddi’r cynllun amlinellol yn 2022.

4. Yn cefnogi diwygiadau pellach i’r cynllun ffermio cynaliadwy mewn ymateb i adborth oddi wrth ffermwyr yn ystod yr ymgynghoriad diweddar.

5. Yn nodi mai’r bygythiad mwyaf i sector ffermio cynaliadwy a diogelwch bwyd yng Nghymru yw effaith y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

6. Yn cymeradwyo bwriad y cynllun ffermio cynaliadwy i wobrwyo ffermwyr Cymru sy’n cymryd camau i ymateb i’r her honno.

7. Yn gresynu at bolisi Llywodraeth y DU o waredu sicrwydd o ran cyllid i ffermydd a lleihau cyllidebau, gan wneud y broses bontio yn fwy heriol ymhob un o wledydd y DU, gan greu ansicrwydd i ffermwyr.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl Plaid Cymru - TB Buchol

NDM8494 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Yn cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi arolwg NFU Cymru ar TB mewn gwartheg yng Nghymru sy'n datgan:

a) bod 70 y cant o ffermwyr yn disgrifio dull Llywodraeth Cymru o ddileu TB fel un gwael iawn;

b) bod 85 y cant o ffermwyr yn dweud bod TB yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl, a bod 63 y cant o'r ffermwyr a holwyd yn beio bywyd gwyllt am drosglwyddo TB; ac

c) y gost ariannol gyfartalog amcangyfrifedig y flwyddyn i ffermydd a ddarparodd fanylion cost yw £25,677, gyda data ar draws yr holl ymatebwyr yn dangos dros 30 y cant yn amcangyfrif bod eu costau dros £10,000 a 13 y cant dros £50,000.

2. Yn gresynu at:

a) y baich ariannol ac iechyd meddwl aruthrol ar ffermwyr yng Nghymru a berir gan TB gwartheg; a

b) y diystyriaeth barhaus o farn arbenigol a thystiolaeth wyddonol gan Lywodraeth Cymru, ar draul gwartheg Cymru a lles ariannol a meddyliol ffermwyr Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal gwerthusiad ac arfarniad hirdymor o reolaethau gwartheg cyfredol ar frys i bennu eu heffeithiolrwydd cymharol wrth atal a rheoli trosglwyddo clefydau;

b) gwneud newidiadau ar unwaith i'r polisi lladd ar y fferm;

c) sefydlu polisïau sy'n adlewyrchu bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint ac sy'n caniatáu dulliau difa a rheoli priodol a gwyddonol dilys; a

d) trafod gydag NFU Cymru, UAC a chynrychiolwyr eraill o'r sector amaeth yng Nghymru i sefydlu ffordd newydd ymlaen wrth bennu polisi TB gwartheg Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi’r ymgysylltu sy’n parhau gyda’r undebau amaeth er mwyn datblygu dull o ddileu TB sy’n gadarn a hefyd yn addas i’w diben.

2. Yn croesawu:

a) y gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr sy’n dioddef effaith ddifrifol TB ar eu fferm, gan gynnwys cefnogaeth gan Cymorth TB a hefyd y cymorth gan Tir Dewi; Rhwydwaith y Gymuned Ffermio; FarmWell Cymru; Sefydliad DPJ; a

b) dull y Llywodraeth o lunio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chynnwys arbenigedd o’r radd flaenaf wrth ddatblygu polisi ar TB gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol yng Nghymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion y DU.

3. Yn cefnogi:

a) camau i werthuso’n barhaus bolisi Llywodraeth Cymru ar TB, ar sail yr adolygiad targed ar gyfer y garreg filltir gyntaf a fydd yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yn 2024 a Bwrdd y Rhaglen TB Buchol;

b) camau i sicrhau bod adolygu’r polisi o ladd ar ffermydd yn flaenoriaeth i’r Grŵp Cynghori Technegol newydd ar TB Buchol; ac

c) cynnwys undebau ffermio ar Fwrdd newydd y Rhaglen TB. 

4. Yn gwrthwynebu’r gwaith o ddifa ar raddfa eang foch daear, sy’n rhywogaeth gynhenid i Gymru, fel ffordd o reoli TB Buchol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.18

8.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.13

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

NDM8487 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Yr ymgyrch 'Spot Leukaemia' a mynediad at brofion gwaed

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.18