Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Anfonodd Alun Davies ymddiheuriadau.

(13.30 - 14.30)

2.

Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth

Sam Rowlands AS, Aelod sy'n gyfrifol am y Bil

Manon Huws, Gwasanaethau Cyfreithiol, Senedd Cymru

Jennifer Cottle, Gwasanaethau Cyfreithiol, Senedd Cymru

Gareth Rogers, Rheolwr y Bil, Senedd Cymru

Dr Dave Harvey, Staff Cymorth yr Aelod

 

Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), fel y’i cyflwynwyd
Memorandwm Esboniadol
Datganiad o Fwriad y Polisi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sam Rowlands AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.

(14.35 - 14.40)

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

3.1

SL(6)449 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. 

(14.40 - 14.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

4.1

SL(6)447 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(14.45 - 14.50)

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

5.1

SL(6)440 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am fwy o eglurder.

5.2

SL(6)441 - Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am fwy o eglurder.

5.3

SL(6)444 - Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd Rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(14.50 - 14.55)

6.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – trafodwyd eisoes

6.1

SL(6)435 – Cod Ymarfer Rhan 8 – Rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(14.55 - 15.00)

7.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

7.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Rheoliadau Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Gwahardd Gwasanaethau) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.

7.2

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

(15.00 - 15.05)

8.

Papurau i’w nodi

8.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

8.2

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Biliau Diwygio: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Biliau Diwygio.

8.3

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cyllid: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cyllid.

8.4

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru: crynodeb o’r ymatebion

Cofnodion:

Nododdd y Pwyllgor grynodeb o’r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru.

8.5

Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ’r Arglwyddi Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷr Arglwyddi

(15.05)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(15.05 - 15.15)

10.

Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Sam Rowlands AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.

(15.15 - 16.15)

11.

Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(16.15 - 16.25)

12.

SICM(6)4 - Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

(16.25 - 16.35)

13.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(16.35 - 16.45)

14.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

·         Confensiwn UNESCO ar Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol

·         Diwygiad i'r Cytundeb sy'n Sefydlu'r Banc Ewropeaidd ar gyfer Ailadeiladu a Datblygu (EBRD)

·         Y DU ac Ynysoedd Philippines ar Drosglwyddo Personau sydd wedi’u Dedfrydu

Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau yn ei gyfarfod nesaf.

(16.45 - 16.50)

15.

Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i ohebiaeth gyda’r Pwyllgor Busnes ynghylch y gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan, a chytunodd i ysgrifennu ymhellach at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes. 

(16.50 - 16.55)

16.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arno.

Cytunodd hefyd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad cyn y sesiwn graffu arfaethedig gyda’r Cwnsler Cyffredinol ar 26 Chwefror 2024.