Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 Dogfennau ategol: |
|
SL(6)464 - Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(6)467 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2024 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
SL(6)469 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)465 - Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 - 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)456 - Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)462 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)463 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.45 - 13.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)460 - Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.50 - 13.55) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Grwpiau Rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd mewn cysylltiad â
chyfarfodydd y canlynol: ·
y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, ac ·
y Grŵp Rhyngweinidogol ar
Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE. |
||
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Lleol: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol etc.) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau’r Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymu a Darpariaeth Ganlyniadol) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru,
a’r Trefnydd. |
||
(13.55 - 14.00) |
Papurau i'w nodi |
|
Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE: Adroddiad cryno’r pedwerydd cyfarfod Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr adroddiad cryno ar bedwerydd
cyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE,
a luniwyd ar ran Huw Irranca-Davies a Sam Kurtz, a oedd yn cynrychioli’r Senedd
yn y cyfarfod. |
||
Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Craffu ar waith Gweinidogion Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth oddi wrth y Llywydd: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
oddi wrth y Llywydd. |
||
(14.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod |
|
(14.00 - 14.05) |
Cywiriadau i Offerynnau Statudol Cymru Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor gywiriadau Llywodraeth Cymru i
Offerynnau Statudol, a chytunodd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad i ofyn am ragor o wybodaeth. |
|
(14.05 - 14.15) |
Llythyr drafft at Gadeirydd Dirprwyaeth Senedd Ewrop i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor lythyr
drafft at Gadeirydd Dirprwyaeth Senedd Ewrop i Gynulliad Partneriaeth Seneddol
y DU a’r UE, a chytunodd arno. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at
Gadeirydd Dirprwyaeth Senedd y DU i Gynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r
UE. |