Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2024 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Ni chafwyd dim ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

 

(10.15)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Ymateb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar ei waith craffu blynyddol ar rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 26 Ionawr 2024

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Oblygiadau Ariannol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 26 Ionawr 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn gofyn am ragor o wybodaeth mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor ar gostau sy’n ymwneud â Chomisiwn y Senedd sy’n deillio o’r Bil.

2.3

PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024 - 17 Ionawr 2024

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Llythyr gan Archwilio Cymru: Ymateb i waith craffu blynyddol y Pwyllgor Cyllid ar Swyddfa Archwilio Cymru – 1 Chwefror 2024

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 - Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Ymateb Llywodraeth Cymru - 1 Chwefror 2024

Dogfennau ategol:

(10.15-11:00)

3.

Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Emyr Harries, Dirprwy Gyfarwyddwr, Addysg, Busnes a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Lloyd Hopkin, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau atodedig:

Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

FIN(6)-04-24 - Papur 1 - Papur Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

FIN(6)-04-24 Papur 2 - Llythyr gan Sam Rowlands AS at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 23 Ionawr 2024 (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; Emyr Harries, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio Busnes a Llywodraethiant Addysg; a Lloyd Hopkin, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm.

 

3.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ddarparu nodyn ar drefniadau arolygu ar gyfer canolfannau gweithgareddau awyr agored preswyl a chostau cysylltiedig.

(11.15-12.15)

4.

Goblygiadau ariannol Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Simon Tew – Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

Ben Crudge - Pennaeth Polisi Trethi Lleol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau atodedig:

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Ben Crudge, Pennaeth Polisi Trethi Lleol; a Simon Tew, Rheolwr y Bil.

 

(12.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15-12.30)

6.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.