Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/02/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2        Datganodd Samuel Kurtz MS ei fod yn aelod o Gymdeithas Filfeddygol Prydain.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Butterworth, Prif Swyddog Gweithredol Siambrau Cymru.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

2.1

Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol etc.) 2024

Dogfennau ategol:

2.2

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

2.3

Hybu Cig Cymru

Dogfennau ategol:

2.4

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)

Dogfennau ategol:

2.5

Cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig – 7 Chwefror 2024: Cwestiynau dilynol ar gyfer Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

(09.30-10.15)

3.

Ymchwiliad: Cyswllt Ffermio: Panel 1 – Rhanddeiliaid

Dominic Hampson-Smith, Is-Gadeirydd Materion Gwledig, Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Gareth Parry, Dirprwy Bennaeth Polisi, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)

Abi Reader, Dirprwy Lywydd, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar Cyswllt Ffermio.

 

(10.20-11.05)

4.

Ymchwiliad: Cyswllt Ffermio: Panel 2 – Rhanddeiliaid

Hywel Morgan, Cadeirydd, Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Cymru (NFFN)

Elaine Harrison, Rheolwr Cenedlaethol i Gymru, Confor

Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr, RSPB Cymru, yn cynrychioli Cyswllt Amgylchedd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar Cyswllt Ffermio.

4.2     Cytunodd Confor i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi rhagor o fanylion am sut y gallai Confor a Cyswllt Ffermio ategu ei gilydd o ran elfennau coetir y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

 

(11.15-12.25)

5.

Ymchwiliad Banc Datblygu Cymru: Panel 2 – Safbwynt busnesau yng Nghymru

Ben Cottam, Pennaeth Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB)

Paul Butterworth, Prif Swyddog Gweithredol, Siambrau Cymru

 

Linc i dudalen yr ymgynghoriad yn cynnwys yr holl ymatebion a gafwyd:

Ymchwiliad Banc Datblygu Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ar Fanc Datblygu Cymru.

 

(12.25)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1     Derbyniwyd y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.25-12.35)

7.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.