Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2        Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

(09.30-10.25)

3.

Gweinidog yr Economi – sesiwn ar Tata Steel

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru

Dickie Davis, Dirprwy Gyfarwyddwr – Prosiectau Arbennig ac Adeiladwaith, Llywodraeth Cymru

Nigel Elias, Uwch Reolwr Trawsnewid Diwydiannol – Dur, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi.

 

 

(10.30-11.15)

4.

Tata Steel UK

Rajesh Nair, Prif Weithredwr, Tata Steel UK

Chris Jaques, Prif Swyddog Adnoddau Dynol, Tata Steel UK

 

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Tata Steel UK.

4.2     Cytunodd Tata Steel UK i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu dadansoddiad o’r diswyddiadau arfaethedig ym mhob un o’u safleoedd yn y DU, a sut y penderfynwyd ar gydbwysedd y diswyddiadau arfaethedig rhwng y gwahanol safleoedd.

 

(11.30-12.15)

5.

Model Gweithredu Targed y Ffin

Y Farwnes Lucy Neville-Rolfe DBE CMG, Gweinidog Gwladol yn Swyddfa’r Cabinet, Llywodraeth y DU

Tom Smith, Cyfarwyddwr, Y Grŵp Ffiniau yn Swyddfar Cabinet, Llywodraeth y DU

 

Cofnodion:

5.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Farwnes Neville-Rolfe DBE CMG, Gweinidog Gwladol yn Swyddfa’r Cabinet, Llywodraeth y DU.

5.2     Cytunodd y Farwnes Neville-Rolfe i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ac eglurhad ynghylch Fframwaith Windsor.

 

(12.15-12.20)

6.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw).

 

(12.20)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1     Derbyniwyd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.20-12.25)

8.

Trafod y dystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

8.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.