Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/02/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2        Datganodd Luke Fletcher AS ei fod yn aelod o is-grwpiau o Fwrdd Pontio Tata Steel UK.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig – 7 Chwefror 2024: Gwybodaeth bellach yn dilyn y sesiwn gyda Tata Steel UK

Dogfennau ategol:

2.2

Y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

2.3

Cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig – 7 Chwefror 2024: Gwybodaeth bellach yn dilyn y sesiwn ar Fodel Gweithredu Targed y Ffin

Dogfennau ategol:

2.4

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Dogfennau ategol:

2.5

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

2.6

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ffioedd a Thaliadau) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

(09.30-10.15)

3.

Dyfodol Dur yng Nghymru: Undebau Dur

Alasdair McDiarmid, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Undeb Community

Tom Hoyles, Gweinyddiaeth y Wasg ac Ymchwil, Undeb y GMB

Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite Cymru, Undeb Unite

 

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ddyfodol dur yng Nghymru.

 

(10.20-11.20)

4.

Dyfodol Dur yng Nghymru: Panel arbenigol

Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol, Diwydiant Sero Net Cymru

Yr Athro Dave Worsley, Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Abertawe

Dr Clare Richardson-Barlow, Prifysgol Leeds

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ddyfodol dur yng Nghymru.

 

(11.30-12.30)

5.

Dyfodol Dur yng Nghymru: Panel arbenigol 2

Dr Dean Stroud, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Vera Trappmann, Cysylltiadau Cyflogaeth Cymharol, Prifysgol Leeds

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ddyfodol dur yng Nghymru.

5.2     Cytunodd yr Athro Vera Trappmann i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am reoli’r broses bontio ar gyfer y gweithlu a dysgu gan wledydd eraill ynghylch sut i reoli’r pontio hwn. Roedd hyn yn atodol i’r dystiolaeth ysgrifenedig a ddarparwyd gan yr Athro Trappmann ar gyfer y cyfarfod ei hun, a nodwyd gan yr Aelodau ac a fydd yn cael ei chyhoeddi maes o law.

 

(12.30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1     Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.30-12.45)

7.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.