Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Buffy Williams AS. Roedd Alun Davies AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Buffy Williams.

1.3        Datganodd Luke Fletcher AS ei fod yn aelod o is-grŵp o Fwrdd Pontio Tata Steel UK.

 

(13.45)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Cyswllt Ffermio

Dogfennau ategol:

2.2

Y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

(13.45-14.45)

3.

Dyfodol Dur yng Nghymru: Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Y Gwir Anrhydeddus David TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth y DU

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

3.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Adran Busnes a Masnach i ofyn am ragor o wybodaeth, ynghylch ei ystyriaeth o fodel busnes Tata ar gyfer ffwrnais bwa trydan yn defnyddio dur sgrap, i wahardd allforio dur sgrap.

 

(14.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1     Cafodd y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ei gytuno.

 

(14.45-14.55)

5.

Trafod y dystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.