Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2024 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(11:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, Jenny Rathbone.

 

O ganlyniad, o dan Reol Sefydlog 17.22, enwebwyd Sarah Murphy i gadeirio cyfarfod heddiw dros dro.

 

 

(11:00)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r papurau.

 

2.1

Gohebiaeth gan Grŵp Cyllideb Menywod Cymru ynghylch Cyllideb Ddrafft 2024-2025 Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

2.2

Gohebiaeth gan CWMPAS at y Cadeirydd ynghylch Cyllideb Ddrafft 2024/2025

Dogfennau ategol:

2.3

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ymchwiliad dilynol y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ofal plant

Dogfennau ategol:

2.4

Gohebiaeth gan Oxfam at y Cadeirydd ynghylch yr adroddiad Camau Bach, Brwydrau Mawr: Gofal Plant yng Nghymru

Dogfennau ategol:

2.5

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo

Dogfennau ategol:

2.6

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Cytundeb ar gyfer Darparu Partneriaeth Lloches i Gryfhau Ymrwymiadau Rhyngwladol a Rennir i Ddiogelu Ffoaduriaid a Mudwyr

Dogfennau ategol:

2.7

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cydnabyddiaeth Gilyddol y DU a Phortiwgal at Ddibenion Gyrru a Chyfnewid Trwyddedau

Dogfennau ategol:

(11:00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill cyfarfod heddiw

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.

 

(11:00-12:30)

4.

Cyllideb Ddrafft 2024-25: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft.

 

(12:30-13:00)

5.

Y flaenraglen waith: trafod y papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r flaenraglen waith.