Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/04/2024 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad undydd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16: Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau addysg a hyfforddiant ôl-16 (1)

Dafydd Evans, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai, yn cynrychioli ColegauCymru

Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Dr Ioan Matthews, Prif Swyddog Gweithredol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

 

Briff ymchwil

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr ColegauCymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

(10.40 - 11.15)

3.

Ymchwiliad undydd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (2)

Dona Lewis, Prif Swyddog Gweithredol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

 

 

(11.15)

4.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod yn ei gyfarfod ffurfiol nesaf ymateb drafft i lythyr y Pwyllgor Cyllid yn gwahodd sylwadau ar gyfer llywio'r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i dynnu sylw at bryderon am y sector diwylliant yng Nghymru o ganlyniad i doriadau yn y gyllideb, yn benodol amgueddfeydd.

 

4.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd ac Ysgrifenyddion y Cabinet i ailddatgan meysydd blaenoriaeth y Pwyllgor ar gyfer gweddill y Chweched Senedd.

 

4.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Llyfrau Cymru yn dilyn cyhoeddiad y tendr ar gyfer cylchgrawn newydd i Gymru.

 

4.6 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau yn gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt deiseb ar ddarparu cymorth dyngarol i Gaza.

 

4.1

Cyngor Celfyddydau Cymru: Adolygiad Buddsoddi

Dogfennau ategol:

4.2

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Dogfennau ategol:

4.3

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

Dogfennau ategol:

4.4

Cyllideb Ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

4.5

Model cyllido cylchgronnau Cyngor Llyfrau Cymru

Dogfennau ategol:

4.6

Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru

Dogfennau ategol:

4.7

Confensiwn UNESCO ar Ddiogelu’r Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol

Dogfennau ategol:

4.8

P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza

Dogfennau ategol:

(11.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 11.30)

6.

Ymchwiliad undydd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chyfres o gwestiynau.

 

(11.30 - 12.00)

7.

Trafod y flaenraglen waith ar gyfer haf 2024 (2)

Blaenraglen waith ddrafft

Cylch gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad i'r diwydiant gemau fideo

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ddrafft a chytunodd arni.

 

(12.00 - 12.10)

8.

Hawliau darlledu rygbi’r Chwe Gwlad: Trafod yr adroddiad drafft (2)

Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.