Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2024 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Hefin David AS. Roedd Huw Irranca-Davies yn bresennol fel dirprwy.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: sesiwn dystiolaeth gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth a Gweinidog yr Economi

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru

Jason Thomas, Cyfarwyddwr - Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr - Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth a Gweinidog yr Economi.

2.2     Cytunodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i rannu copi o'r strategaeth ddiwylliant gyda'r Pwyllgor cyn iddi gael ei chyhoeddi.

2.3     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i gael gwybodaeth ychwanegol.

 

 

 

(11.00)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1     Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Honiadau am fwlio yn S4C

Dogfennau ategol:

3.2

Cyngor Celfyddydau Cymru: Adolygiad Buddsoddi

Dogfennau ategol:

3.3

Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o ddechrau'r cyfarfod nesaf (24 Ionawr 2024)

Cofnodion:

4.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 11.45)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth gyda'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.

 

(11.45 - 12.05)

6.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol: ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

(12.05 - 12.30)

7.

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru: trafod y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol.