Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriad gan Joel James AS. Roedd Altaf
Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS. Roedd Rhys ab
Owen AS yn absennol. |
|
Sesiwn dystiolaeth - Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc Carole Stewart,
Transport Scotland Confederation of
Passenger Transport (CPT) Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Carole Stewart a Gillian Kelly o Transport Scotland a
Paul White o Gonffederasiwn Cludiant Teithwyr yr Alban. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1395 Atal datblygiadau newydd sylweddol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn nifer o gwestiynau penodol a godwyd gan y
deisebwyr ac Aelodau’r Pwyllgor, cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau
pellach mewn perthynas â’r ddeiseb. Cytunodd yr
Aelodau i anfon y llythyr at y Gweinidog ar ôl i drafodion cyfnod 3 Bil
Seilwaith (Cymru) gael eu cynnal yn y cyfarfod llawn (19 Mawrth 2024). |
|
P-06-1404 Cynyddu eglurder a hawliau’r rhai sy’n cael taliadau uniongyrchol neu Grant Byw’n Annibynnol Cymru er mwyn iddynt fyw'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod disgwyl i
ddeddfwriaeth ar ofal cymdeithasol gael ei chyflwyno ar ôl y Pasg. Yng ngoleuni
hyn, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o'r materion a amlinellwyd yn y ddeiseb a rôl
bosibl y Bil wrth fynd i'r afael â hwy. |
|
P-06-1406 Cosbau ariannol i Awdurdodau Addysg Lleol nad ydynt yn cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i godi'r materion a amlinellwyd yn ystod dadl y
Pwyllgor Deisebau sydd i ddod ar P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu
Ychwanegol Cymru 2021. At hynny,
cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg at y ddeiseb. |
|
P-06-1408 Dylid gwneud y mynediad i Ardd Gudd A4042 Goetre Fawr yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y datblygiad o gynnal astudiaeth ddichonoldeb
gyda'r bwriad o wneud y gwelliannau y tynnwyd sylw atynt yn y ddeiseb. Yn sgil
hyn, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd. Cytunodd yr
Aelodau hefyd i anfon y pwyntiau a'r cwestiynau pellach a godwyd gan y
deisebydd at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac anfon copi at yr awdurdod
lleol. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymatebion a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru ac
Ofgem, ac y bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 1 Mai 2024. |
|
P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng
Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2
flwydd oed o fis Ebrill 2024 a nododd y ddadl yn y Senedd a glywodd bryderon
rhieni ledled Cymru. Yn sgil y ddadl
ac ymateb y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebwyr am godi’r mater pwysig. Yn ogystal â
chau’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i barhau i frwydro dros hawliau rhieni sy’n
gweithio ledled Cymru, yn rhinwedd eu rôl fel Aelodau unigol o’r Senedd. |
|
P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol
ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn
Lloegr a nododd y ddadl yn y Senedd a glywodd bryderon rhieni ledled Cymru. Yn sgil y ddadl
ac ymateb y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebwyr am godi’r mater pwysig. Yn ogystal â
chau’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i barhau i frwydro dros hawliau rhieni sy’n
gweithio ledled Cymru, yn rhinwedd eu rôl fel Aelodau unigol o’r Senedd. |
|
P-06-1369 Defnyddiwch enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i
ofyn am ragor o fanylion am waith ac adroddiadau ar y goblygiadau o ran
defnyddio enwau lleoedd Cymraeg ac unrhyw argymhellion a wnaed ac amserlenni ar
gyfer gweithredu. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd. |