Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan AS. Dirprwyodd
Llyr Gruffydd ar ei rhan. Datganodd Llyr Gruffydd AS ei fod wedi bod yn Aelod
Dynodedig at ddibenion y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid
Cymru ym mis Mai a mis Mehefin 2023 pan oedd yn Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru,
ond nad oedd wedi cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau polisi ar gyfer Cytundeb
Cydweithredu o ran diwygio’r Senedd yn ystod y cyfnod hwnnw. Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol
yn unol â Rheol Sefydlog 17.49. |
|
(09.15) |
Papurau i'w nodi |
|
Ymateb gan Gomisiwn y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a’r ddarpariaeth swyddfeydd etholaethol - 14 Rhagfyr 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan yr Athro Laura McAllister a Dr Vale Gomes yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 26 Hydref 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y wybodaeth. |
||
Ymateb gan gyn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 19 Rhagfyr 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Boundaries Scotland yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 9 Tachwedd 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y wybodaeth. |
||
Llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch atodlen o welliannau ar y cyd ar gyfer Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - 11 Rhagfyr 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(09.15 - 12.15) |
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): adroddiad drafft Dogfennau
ategol Papur 2
Adroddiad drafft [Saesneg yn unig] Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar
fân ddiwygiadau i’w cytuno drwy e-bost. |