Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2024 - Y Pwyllgor Biliau Diwygio
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AS. Dirprwyodd
James Evans AS ar ei ran. Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol
yn unol â Rheol Sefydlog 17.49. Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan y Llywydd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 15 Mawrth 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(09.30-10.30) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda gweinyddwyr etholiadol Colin Everett,
Cadeirydd, Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru Clare Sim,
Rheolwr Cymorth a Chyngor Aelodau, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol Catherine Uphill,
Rheolwr, Comisiwn Etholiadol Cymru Dogfen ategol Briff Ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, Cymdeithas y
Gweinyddwyr Etholiadol a Chomisiwn Etholiadol Cymru. Cytunodd y
tystion i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig ar y canlynol:
|
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig. |
|
(10.30 - 10.45) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(10.45-11.00) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): y dull o graffu yng Nghyfnod 1 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dull craffu a chytunodd arno. |