Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/10/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC, Suzy Davies AC a Dai Lloyd AC.

 

14.30

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

2.1

SL(5)259 - Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

CLA(5)-26-18 – Papur 1 – Adroddiad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad er mwyn tynnu sylw at faterion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 

14.35-14.40

3.

Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Hygyrchedd Cyfraith Cymru

CLA(5)-26-18 – Papur 2 – Datganiad Ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig.

 

14.40-14.45

4.

SL(5)257 - Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018 - Gohebiaeth

CLA(5)-26-18 – Papur 3 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, 9 Hydref 2018

CLA(5)-26-18 – Papur 4 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, 17 Hydref 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

 

14.45-14.50

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch y Cod Trefniadaeth Ysgolion

CLA(5)-26-18 – Papur 5 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 11 Hydref 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytuno i ysgrifennu eto i ofyn am ragor o eglurhad ar sut y mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn wedi'i hystyried fel rhan o'r asesiad o'r effaith.

 

5.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch SL(5)239 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2018

CLA(5)-26-18 – Papur 6 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 12 Hydref 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet.

 

5.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg SL(5)240 – Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018

CLA(5)-26-18 – Papur 7 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 12 Hydref 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet.

 

5.4

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch SL(5)248 – Rheoliadau Bwyd a Materion Gwledig (Dirymiadau Amrywiol) 2018

CLA(5)-26-18 – Papur 8 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, 16 Hydref 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet.

 

5.5

Newidiadau i'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â Gorchmynion adran 116C yn y Cyfrin Gyngor

CLA(5)-26-18 – Papur 9 – Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, 8 Hydref 2018

CLA(5)-26-18 – Papur 10 – Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, 16 Hydref 2018

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ag Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip.

 

5.6

Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

CLA(5)-26-18 – Papur 11 - Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, 17 Hydref 2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

14.50-15.05

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amaethyddiaeth

CLA(5)-26-18 – Papur 12 – Papur Briffio Cyfreithiol

CLA(5)-26-18 – Papur 13 – Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

CLA(5)-26-18 – Papur 14 – Datganiad ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru

CLA(5)-26-18 – Papur 15 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-26-18 – Papur 16 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

CLA(5)-26-18 – Papur 17 – Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

CLA(5)-26-18 – Papur 18 - Tŷ'r Arglwyddi, Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio, 34ain Adroddiad Sesiwn 2017-19, Bil Amaethyddiaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Bil Amaethyddiaeth a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a chytuno i dderbyn y gwahoddiad i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

15.05-15.10

8.

Craffu ar reoliadau negyddol arfaethedig a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - diweddariad

CLA(5)-26-18 – Papur 19 - Craffu ar offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol arfaethedig: proses

 

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y diweddariad proses ar gyfer craffu ar y rheoliadau negyddol arfaethedig sydd i'w gwneud o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018.

 

15.10-15.15

9.

Llywodraethiant yn y DU ar ôl Brexit - Cynhadledd Llefaryddion

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cynnig o gynhadledd llefaryddion, a argymhellwyd yn gyntaf yn adroddiad y Pwyllgor ar Lywodraethiant yn y DU ar ôl Brexit, a chytuno i wneud rhagor o waith.

 

15.15-15.20

10.

Fforwm rhyngseneddol ar Brexit: diweddariad ar amserlen y cyfarfod ar 25 Hydref

Cofnodion:

Nododd y pwyllgor yr amserlen ar gyfer y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit a gynhelir ar 25 Hydref. 

 

15.20-15.25

11.

Bil Uno

CLA(5)-26-18 – Papur 20 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur briffio a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil.