Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Is-bwyllgorau ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Y Pedwerydd Cynulliad

Cafodd y Pwyllgor hwn o’r Pedwerydd Cynulliad ei ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Pumed Cynulliad

 

Trawsgrifiadai cyfarfodydd

 

Nid yw’r is-bwyllgorau hyn yn cyfarfod mwyach yn dilyn llythyr a ddaeth i law ar 14 Mai 2013 yn cadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen â gwelliant i’r Rheoliadau Mangreoedd Di-fwg.

 

Cylch gwaith

Sefydlodd Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru is-bwyllgor yr un i gymryd tystiolaeth gan grwpiau â diddordeb yn y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012. Unodd yr is-bwyllgorau â’i gilydd i ystyried tystiolaeth ar yr un pryd.

 

Mae'r diwygiad hwn yn darparu esemptiad i berfformwyr o'r gofynion di-fwg, a bydd yn weithredol: adeg perfformiad a roddir mewn cysylltiad â gwneud ffilm neu raglen deledu; pan fo uniondeb artistig y perfformiad yn ei gwneud yn briodol i’r person hwnnw ysmygu; pan nad oes aelodau o’r cyhoedd yn gwylio’r rhaglen deledu neu’r ffilm yn cael ei gwneud; a, pan nad oes plant yn bresennol yn y rhan o’r fangre lle byddai'r perfformiwr yn ysmygu.

 

Ymchwiliadau

 

Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012