Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Cafodd y Pwyllgor hwn o’r Pedwerydd Cynulliad ei ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Pumed Cynulliad

 

Y Pwyllgor Busnes oedd yn gyfrifol am drefnu Busnes y Cynulliad. Hwn yw’r unig Bwyllgor y disgrifir ei swyddogaethau a’i gylch gwaith yn y Rheolau Sefydlog. Ei waith yw "hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Cynulliad yn effeithlon", fel y nodir yn Rheol Sefydlog 11.1. 

 

Y Llywydd oedd yn cadeirio’r cyfarfodydd, ac roedd y Gweinidog dros Fusnes y Llywodraeth a Rheolwr Busnes pob un o’r pleidiau eraill a gynrychiolir yn y Cynulliad yn bresennol hefyd.

 

Roedd y Pwyllgor fel arfer yn cyfarfod yn breifat bob wythnos pan fydd y Cynulliad yn cyfarfod. Bydd yn rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn penderfynu ar drefn busnes y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Ar gyfer y cyfarfodydd hyn, dim ond y cofnodion a gaiff eu cyhoeddi (gweler isod).

 

Roedd y Pwyllgor yn cyfarfod yn gyhoeddus ar sail ad hoc i wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Cynulliad wrth gynnal ei fusnes, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud neu ddiwygio’r Rheolau Sefydlog.

 

Roedd y cyfarfodydd hyn yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau arferol ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus ac roedd croeso i aelodau’r cyhoedd eistedd yn yr oriel gyhoeddus i’w harsylwi. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i drefnu i fynd i weld cyfarfod o’r Pwyllgor yn yr adran Mynd i Gyfarfod Pwyllgor.

 

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Busnes.

 

Trawsgrifiadau a’r cofnodion

 

Ymgyngoriadau wedi’u cwblhau

 

Adroddiadau’r Pwyllgor Busnes

 

Amserlen y Cynulliad

Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyhoeddi amserlen bob chwe mis sy'n:

 

  • amlinellu amserlenni'r Cyfarfod Llawn;
  • pennu'r amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau eraill yn y Cynulliad;
  • pennu'r amserau ar gyfer cyfarfodydd grwpiau gwleidyddol;
  • rhestru'r dyddiadau ar gyfer ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn

 

Amserlen y Cynulliad.

 

Aelodaeth

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod: