Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad

Cafodd y Pwyllgor hwn o’r Pedwerydd Cynulliad ei ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Pumed Cynulliad

 

Sefydlwyd y Pwyllgor Safonau ar 22 Mehefin 2011. Rôl y Pwyllgor oedd cyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 22. Roedd y rhain yn cynnwys:

·         ymchwilio i gwynion a gyfeiriwyd ato gan y Comisiynydd Safonau;

·         ystyried unrhyw faterion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau; sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion;

·         a threfnu Cofrestr Buddiannau’r Aelodau a chofnodion cyhoeddus perthnasol eraill a oedd yn ofynnol o dan y Rheolau Sefydlog.

 

Comisiynydd Safonau

Roedd Gerard Elias CF, Comisiynydd Safonau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad i roi cyngor a chymorth ar unrhyw fater o egwyddor sy’n ymwneud ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad. Mae ei ddeiliadaeth fel Comisiynydd Safonau yn mynd o 1 Rhagfyr 2010 tan 30 Tachwedd 2016.

 

Trawsgridiadau a’r ohebiaeth

 

Gwaith a gwblhawyd gan y

 

Aelodaeth

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:

 

·         Mick Antoniw (21 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)

·         Llyr Gruffydd (22 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)

·         Mark Isherwood (21 Mehefin 2011 - 6 Ebrill 2016)

·         Eluned Parrott (30 Medi 2014 - 6 Ebrill 2016)

·         Kirsty Williams (21 Mehefin 2011 - 30 Medi 2014)