Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd

<OpeningPara> Y Pwyllgor Busnes oedd yn gyfrifol am drefnu Busnes y Senedd. Ei waith oedd "hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Senedd yn effeithlon", fel y nodir yn Rheol Sefydlog 11.1.  <OpeningPara>

 

<OpeningPara>Y Llywydd fyddai’n cadeirio’r cyfarfodydd, a bydd y Trefnydd a rheolwr busnes o bob un o’r grwpiau gwleidyddol eraill a gynrychiolir yn y Senedd hefyd yn bresennol. </OpeningPara>

 

Newyddion

Gwybodaeth am y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd

Mae’r Pwyllgor hwn o’r Bumed Senedd wedi’i ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y Chweched Senedd

Y Pwyllgor Busnes oedd yn gyfrifol am drefnu Busnes y Senedd. Ei waith oedd "hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Senedd yn effeithlon", fel y nodir yn Rheol Sefydlog 11.1. 

Y Llywydd fyddai’n cadeirio’r cyfarfodydd, a byddai’r Trefnydd a Rheolwr Busnes o bob un o’r pleidiau eraill a oedd yn cael eu cynrychioli yn y Senedd yn bresennol hefyd.

Fel arfer, byddai’r Pwyllgor yn cyfarfod yn breifat bob wythnos y byddai’r Senedd yn cyfarfod. Byddai’n rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn penderfynu ar drefn busnes y Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Yn achos y cyfarfodydd hyn, dim ond y cofnodion a’r agendâu fyddai’n cael eu cyhoeddi

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Busnes.

Adroddiadau’r Pwyllgor Busnes

Amserlen y Senedd

Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyhoeddi amserlen bob chwe mis sy'n:

 

  • amlinellu amserlenni'r Cyfarfod Llawn;
  • pennu'r amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau eraill yn y Senedd;
  • pennu'r amserau ar gyfer cyfarfodydd grwpiau gwleidyddol;
  • rhestru'r dyddiadau ar gyfer ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn.

Gweld Amserlen y Senedd